Katsura: Darlunio Modernedd ym Mhensaernïaeth Japan

  • Sgwrs

Katsura: Darlunio Modernedd ym Mhensaernïaeth Japan

Sgwrs gan Yasufumi Nakamori
29 Chwefror 2020, 4:00pm

Wedi'i chyhoeddi yn wreiddiol gan Yale University Press ym 1960, Katsura: Tradition and Creation of Japanese Architecture yw'r cyhoeddiad ffotograffig mwyaf arwyddocaol am berthynas moderniaeth a thraddodiad yn Japan ar ôl 1945. Wedi'i ddylunio gan yr artist graffig enwog Bauhaus Herbert Bayer, mae Katsura yn cynnwys 135 o ffotograffau du-a-gwyn gan Ishimoto Yasuhiro yn darlunio Villa Imperial Katsura yn Kyoto o'r 17eg, gyda thraethodau gan y penseiri Walter Gropius a Tange Kenzo. Yn ei sgwrs, dadleua Nakamori fod Tange, wedi’i ysgogi gan awydd i drawsnewid y delweddau pensaernïol yn ddarnau haniaethol, wedi chwarae rhan fawr wrth docio a dilyniannu ffotograffau Ishimoto ar gyfer y llyfr. Mae'r awdur yn rhoi golwg ffres a beirniadol ar natur y cydweithredu rhwng Tange ac Ishimoto, gan archwilio sut y gwnaeth eu geiriau a'u delweddau helpu i sefydlu cyfeiriad newydd mewn pensaernïaeth fodern yn Japan. Mae'r llyfr yn gyfraniad pwysig i faes ysgolheigaidd cynyddol celf Japaneaidd ar ôl 1945, yn enwedig pwynt cyswllt ffotograffiaeth a phensaernïaeth.

 

 _____________________

Mae Yasufumi Nakamori, PhD, yn Uwch Guradur Celf Ryngwladol (Ffotograffiaeth) yn Tate Modern, ac yn arwain ymdrechion y sefydliad i arddangos a chasglu ffotograffiaeth. O 2008-16, roedd yn guradur ffotograffiaeth yn Museum of Fine Arts, Houston, lle trefnodd arddangosfeydd gan gynnwys Katsura: Modernism in Japanese Architecture, Photographs by Ishimoto Yasuhiro (derbyniodd ei gatalog Gwobr Alfred H. Barr, Jr yn 2011 gan College Art Association) ac For a New World to Come: Experiments in Japanese Art and Photography, 1968-1979. Cyn Tate, ef oedd curadur a phennaeth yr adran ffotograffiaeth a chyfryngau newydd yn Minneapolis Institute of Art, lle trefnodd arddangosfeydd monograffig gyda Leslie Hewitt, The Propeller Group, Omer Fast, Naoya Hatakeyama, ac Amar Kanwar. Yn Tate, mae'n cyd-guradu'r arddangosfa Zanele Muholi sydd ar ddod, a fydd yn agor ar 29 Ebrill 2020.

Booking: 

 

AM DDIM (Argymhellir archebu lle)


 Eventbrite