- Sgwrs
Llanwau, peli eira ac esblygiad
Mae'r llanw yn hanfodol i gynnal yr hinsawdd sy'n rheoli patrymau cylchrediad y môr, ac fel pwmp sy'n gyfrifol am gynnal gallu'r môr i gynnal a datblygu bywyd. Dros filiynau o flynyddoedd, mae cyfandiroedd wedi symud, uno ac ymrannu. Mae hyn yn arwain at newidiadau yn y llanw a rhai canlyniadau difrifol ar gyfer bywyd ac hinsawdd. Yn y sgwrs hon, byddwn yn mynd ar daith biliwn o flynyddoedd drwy hanes y Ddaear ac yn archwilio sut mae cyfandiroedd sy’n symud yn newid y llanw, yr hinsawdd a bywyd.
Nos Iau 8 Tachwedd, 7.30pm (derbyniad diodydd am 7pm)
Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr
Noddir gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd
Bydd Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn edrych ar amrywiaeth y bywyd yn ein moroedd ni - o facteria i forfilod.
Cyflwynir y darlithoedd ar nosweithiau Iau gan chwe gwyddonydd morol blaenllaw sydd i gyd yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd unigol.
27 Medi David Thomas: Bywyd tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig
11 Hydref Stuart Jenkins: Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt
25 Hydref Lewis LeVay: Ffermio cynaliadwy yn y môr - o fyd-eang i leol
8 Tachwedd Mattias Green: Llanwau, peli eira ac esblygiad
22 Tachwedd Line Cordes: Byd acwstig mamaliaid y môr
6 Rhagfyr Gareth Williams: Archwilio a dysgu oddi wrth y riffiau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear
Hanes MOSTYN - Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol
Yn ystod yr ymchwil ar gyfer y Gyfres Hanes o arddangosfeydd (2014-2017), gwelwyd bod adeilad yr oriel yn gartref i 'Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol' rhwng 1903-1912. Cafwyd rhaglen gynhwysfawr o ddarlithoedd gan siaradwyr o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gwyddor môr.
Mae Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn galluogi MOSTYN i ddathlu ei threftadaeth ac i ddangos sut mae ymchwil gyfredol mewn gwyddor môr yn ymateb i faterion cyfoes.
Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)
Mae’r NRN-LCEE yn fenter ymchwil fawr, sy’n werth £7M ledled Cymru. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil rhagorol ar y rhyngweithio rhwng tir, dŵr a’r broses o ddarparu bwyd a chynhyrchu ynni. Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ariannu'r Rhwydwaith drwy Raglen Sêr Cymru ar gyfer denu talent wyddonol i Gymru.
Mae’r Rhwydwaith yn ariannu Cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil PhD sy’n rhan o ‘Glystyrau Ymchwil’ rhyngddisgyblaethol a chydweithredol Prifysgolion Cymru a phartneriaid eraill, yn ogystal â Chymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr sy’n dychwelyd i’r byd addysg ar ôl seibiant gyrfa. Mae’r unigolion dawnus hyn yn mynd i’r afael â heriau ymchwil gwahanol sy’n berthnasol i’r gymdeithas ac i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r Rhwydwaith yn darparu arian datblygu ymchwil ac yn trefnu darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus eraill gyda’r nod o ddenu arbenigwyr ym meysydd ymchwil LCEE ac sy’n ymwneud â heriau presennol i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael ar y wefan:www.nrn-lcee.ac.uk
Booking:
AM DDIM
Cynghorir archebu ar 01492 868191 neu drwy alw i'r oriel.