LLAWN 05

Poster LLAWN
poster
  • Gŵyl

LLAWN 05

Penwythnos Celfyddydau Llandudno
15 Medi 2017, 6:30pm to 17 Medi 2017, 6:00pm

Penwythnos Celfyddydau rhad ac am ddim MOSTYN yw LLAWN, ac mae’n dychwelyd ar 15-17 Medi 2017.

Cyfle i fwynhau digwyddiadau celfyddydol ym mhob cwr o’r dref – gyda pherfformiadau, cerddoriaeth, comedi, celfyddyd weledol, ffilm, gêmau, dawnsio a digonedd o bethau i’ch rhyfeddu. Yn LLAWN bydd cyfuniad o artistiaid rhyngwladol, grwpiau lleol, ysgolion a balŵns pinc yn llenwi’r lle ac yn rhoi cyfle i chi archwilio a mwynhau’r dref.

Mae LLAWN yn ŵyl gelfyddydol ddi-dâl sy’n dathlu ac yn archwilio Llandudno drwy gelfyddyd, arteffactau, sain, comedi, perfformiadau a chyfranogiad. Drwy gydol y penwythnos gallwch archwilio’r gweithiau hyn mewn gofodau anarferol a lleoedd annisgwyl, gan gynnwys capeli Bedyddwyr; siopau gweigion; cynwysyddion llongau a’n Peiriannau Ymdrochi Fictorianaidd arbennig ni.

Mae llawer o bethau gwych yn digwydd, gyda nifer yma ym MOSTYN gan gynnwys:

Showcase Gwelaf Greadur

HENO gan Gwyn Williams

Nicola Dale - DYDD - The Act of Reading, 2017

Peidiwch ag anghofio i bleidleisio dros eich hoff waith artist i ennill Gwobr y Gynulleidfa MOSTYN Agored 20

lawr lwythwch y rhaglen lawn yma

ewch i www.llawn.org am fwy o wybodaeth