LLAWN01 - Llandudno arts weekend #1

llawn
  • Gweithgaredd i blant

LLAWN01 - Llandudno arts weekend #1

20 Medi 2013, 10:00am to 22 Medi 2013, 5:30pm

LLAWN01 yw’r amlygiad cyntaf o ŵyl gelfyddydol flynyddol ar gyfer Llandudno.

 

Bydd LLAWN01 yn dathlu hanes diddorol a lliwgar Llandudno am un penwythnos prysur, a bydd yn ystyried pam y cafodd y dref y teitl, Brenhines cyrchfannau Cymru.

Bydd LLAWN01 yn ailgyflwyno’r strwythur Fictoraidd eiconig i ymyl y traeth; sef y Cerbyd Ymdrochi, a oedd yn rhan angenrheidiol o’r arfer ar lan y môr yn y 19eg ganrif.

Chwe cherbyd ymdrochi pwrpasol yn arddull oes Fictoria fydd curiad calon LLAWN01. Bydd pob cerbyd ymdrochi yn ysbrydoliaeth ac yn lleoliad ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u comisiynu’n arbennig, gan artistiaid lleol a rhyngwladol, a fydd i’w gweld ar y promenâd, ar lan y môr ac mewn lleoliad amlwg yng nghanol y dref. Bydd y cerbydau diddorol hyn yn dod yn fyw fel orielau/theatrau bach symudol hynod o hardd, yn gartref i gyfres o berfformiadau a gosodiadau sy’n gysylltiedig â hanes y dref.

Cynhelir nifer o weithgareddau a digwyddiadau ochr yn ochr â hyn hefyd, a fydd yn dod â’r dref gyfan yn fyw, a bydd hyn ar y cyd a phrif bartneriaid yr ŵyl; MOSTYN, Helfa Gelf, Yr Academi Frenhinol Gymreig, Migrations, C.A.S.C, TAPE Community Music and Film, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Venue Cymru, i enwi ond rhai.

Am rhagor o wybodaeth ewch ihttp://www.cymraeg.llawn.org