LLAWN06 - Nu Urban Gardeners

delwedd Chris Lewis-Jones Nu Urban Gardeners
Nu Urban Gardeners at LLAWN
  • Gŵyl

LLAWN06 - Nu Urban Gardeners

Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM
15 Medi 2018, 10:30am

1.00yp - 4.00yp
Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM yn addas ar gyfer pobl 15+ oed 

Fel rhan o LLAWN - Penwythnos Celfyddydau Llandudno eleni, ymunwch ag Chris Lewis-Jones (Nu-Urban Gardeners) ar gyfer archwiliad bywiog ac arloesol o ofod a lle ar ddydd Sadwrn 15 Medi.

Bydd cyfranogwyr yn gwneud ac yn arddangos gwaith celfyddydol cydweithredol a fydd yn ymateb i leoliad yr oriel.
Bydd hyn yn cynnwys elfennau o osod a chasglu, geiriau, creu marciau ac, os bydd yn briodol, ber ormio byw hefyd! Bydd croeso i ymwelwyr â’r oriel ymuno â’r gweithgareddau, fel y dymunant.

 

Fel rhan o LLAWN06 cewch fwynhau cymysgedd cyffrous cwbl newydd o ymyriadau ac arddangosfeydd celf cyfoes, perfformiadau stryd, hwyl rhyngweithiol a sinema ysgubol, mewn llefydd rhyfeddol, ar y strydoedd ac mewn lleoliadau cyfrinachol o amgylch y dref.

Wedi'i drefnu gan MOSTYN, mae partneriaid LLAWN yn cynnwys Mostyn Estates Ltd, Academi Frenhinol Gymreig (RCA Conwy), Culture Action Llandudno (CALL), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gwasanaeth Celfyddydau Conwy. Tape Community Music and Film, Helfa Gelf, Venue Cymru a Migrations.

Ewch i wefan LLAWN, neu ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, i gael manylion llawn yr hyn sy’n digwydd yn MOSTYN ac o amgylch y dref. Mi welwn ni chi yno!

Ariennir LLAWN gan y Loteri Genedlaethol trwy gyfrwng Cyngor Celfyddydau Cymru; Ystadau Mostyn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Celfyddydau a Busnes Cymru a Chyngor Tref Llandudno.

 

Booking: 

Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM yn addas ar gyfer pobl 15+ oed