LLAWN06 14 - 16 September / Medi
- Gŵyl
LLAWN06 Penwythnos Celfyddydau Llandudno
14 - 16 Medi 2018
14 Medi 2018, 6:00pm to 16 Medi 2018, 8:00pm
Penwythnos Celfyddydau rhad ac am ddim MOSTYN yw LLAWN, ac mae’n dychwelyd ar 14 - 16 Medi 2018
We're really excited about LLAWN, MOSTYN's free Llandudno Arts Weekend which returns this year and will take place over the weekend of 14th - 16th September 2018!
Unwaith eto eleni, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at LLAWN, ‘Penwythnos Celf Llandudno’, a gynhelir am ddim gan MOSTYN rhwng 14eg ac 16eg Medi 2018!
Fel rhan o LLAWN06 cewch fwynhau cymysgedd cyffrous cwbl newydd o ymyriadau ac arddangosfeydd celf cyfoes, perfformiadau stryd, hwyl rhyngweithiol a sinema ysgubol, mewn llefydd rhyfeddol, ar y strydoedd ac mewn lleoliadau cyfrinachol o amgylch y dref.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau celf, grwpiau cymunedol ac ysgolion o bob cwr o’r ardal, ac eleni bydd cytiau ymdrochi eiconig LLAWN yn cael eu gweddnewid gan ein partneriaid yn ganolbwyntiau bach o greadigrwydd ar hyd y promenâd.
Wedi'i drefnu gan MOSTYN, mae partneriaid LLAWN yn cynnwys Mostyn Estates Ltd, Academi Frenhinol Gymreig (RCA Conwy), Culture Action Llandudno (CALL), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gwasanaeth Celfyddydau Conwy. Tape Community Music and Film, Helfa Gelf, Venue Cymru a Migrations.
Mae llawer o bethau gwych yn digwydd, gyda nifer yma ym MOSTYN gan gynnwys:
Arddangosfa 'Mae hi'n gweld y cysgodion' (Dydd Gwener / Sadwrn / Sul)
Arddangosfa James Green 'I Fyd yr Asynnod' (Dydd Gwener / Sadwrn / Sul)
Nu Urban Gardeners - Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM (Dydd Sadwrn)
Rhowch gynnig ar y broses o greu print cerfwedd (Dydd Sul)
Rhagelen LLAWN llawn ewch i www.llawn.org
Ariennir LLAWN gan y Loteri Genedlaethol trwy gyfrwng Cyngor Celfyddydau Cymru; Ystadau Mostyn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Celfyddydau a Busnes Cymru a Chyngor Tref Llandudno.