- Gŵyl
LLAWN06 - Rhowch gynnig ar y broses o greu print cerfwedd
1.00yp - 4.00yp
Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM addas i bobl o bob oed a gallu
Fel rhan o LLAWN - Penwythnos Celfyddydau Llandudno eleni, dewch draw i roi cynnig ar creu print ar ddydd Sul 16 Medi.
Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau er mwyn creu printiau cerfwedd ac yn ystyried lliw, patrwm a gweadedd.
Dewch draw i wneud argra ac i gyfrannu at brint cyfranogol ar raddfa fawr a fydd yn cael ei arddangos yn Ffair Brintiau Gogledd Cymru MOSTYN ym mis Tachwedd.
mewn partneriaeth gyda
Fel rhan o LLAWN06 cewch fwynhau cymysgedd cyffrous cwbl newydd o ymyriadau ac arddangosfeydd celf cyfoes, perfformiadau stryd, hwyl rhyngweithiol a sinema ysgubol, mewn llefydd rhyfeddol, ar y strydoedd ac mewn lleoliadau cyfrinachol o amgylch y dref.
Ewch i wefan LLAWN, neu ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, i gael manylion llawn yr hyn sy’n digwydd yn MOSTYN ac o amgylch y dref. Mi welwn ni chi yno!
Wedi'i drefnu gan MOSTYN, mae partneriaid LLAWN yn cynnwys Mostyn Estates Ltd, Academi Frenhinol Gymreig (RCA Conwy), Culture Action Llandudno (CALL), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gwasanaeth Celfyddydau Conwy. Tape Community Music and Film, Helfa Gelf, Venue Cymru a Migrations.
Ariennir LLAWN gan y Loteri Genedlaethol trwy gyfrwng Cyngor Celfyddydau Cymru; Ystadau Mostyn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Celfyddydau a Busnes Cymru a Chyngor Tref Llandudno.
Booking:
Gweithdy galw-fewn RHAD AC AM DDIM addas i bobl o bob oed a gallu