Lola Olufemi: gweithgareddau Gair, Gweithred, Cysylltiad

Lola Olufemi: gweithgareddau Gair, Gweithred, Cysylltiad
Lola Olufemi: gweithgareddau Gair, Gweithred, Cysylltiad
  • Adnoddau Dysgu

Lola Olufemi: gweithgareddau Gair, Gweithred, Cysylltiad

Pecyn adnoddau dysgu
13 Awst 2021, 11:00am to 19 Medi 2021, 3:00pm

Ar gael Maw - Sul - 11yb - 3yp, AM DDIM

Rydym wedi gweithio gyda’r awdur ac actifydd Lola Olufemi i gynhyrchu pecyn adnoddau dysgu sy’n ymateb i’r arddangosfa gyfoeth o weithiau celf, llyfrau, zines, posteri ac arteffactau i’w gweld yn Y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol: Gair, Gweithred, Cysylltiad.

Mae’r pecyn yn lle i chi archwilio’ch syniadau mewn unrhyw ffordd a hoffech. Gallwch dynnu lluniau neu ysgrifennu eich syniadau. Crëwch faniffesto ar gyfer bywyd newydd. Dod i ddeall ystyr o ryddhad menywod ac ymwrthedd ffeministaidd. Crëwch fap meddwl wedi’i ysbrydoli gan yr arddangosfa. Brasluniwch beth sy’n dod i’ch meddwl pan feddyliwch am ryddid.

Gyrrwch e-bost atom ar [email protected] cyn i chi ymweld â'r oriel i archebu pecynnau adnoddau ymlaen llaw. Rhowch o leiaf 3 diwrnod o rybudd i ni cyn eich ymweliad i roi amser i ni baratoi'r pecynnau. Mae pecynnau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r pecynnau adnoddau dysgu hefyd ar gael fel PDF i'w hargraffu a'u defnyddio gartref.

Cadwch yn Ddiogel

Mae'r Pecynnau Adnoddau Dysgu wedi'u datblygu yn unol â chanllawiau diogelwch Covid-19. Mae pecynnau a gesglir o'r oriel yn cynnwys nifer gyfyngedig o bensiliau lliw a fydd yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr rhwng defnyddiau. Pan fyddwch wedi gorffen gyda'r pecynnau, gofynnwn yn garedig os gallwch ddychwelyd y pensiliau i'n desg flaen a glanweithio'ch dwylo cyn ac ar ôl eu defnyddio.