Nicola Dale - DYDD

Nicola Day, The Act of Reading 2017
Nicola Day, The Act of Reading 2017
  • Gŵyl

Nicola Dale - DYDD

The Act of Reading
16 Medi 2017, 11:00am

Prosiect sy’n digwydd yn yr atriwm yn MOSTYN yw ‘DYDD’ ac mae’n cyferbynnu â ‘HENO’, sef prosiect a gyflwynwyd ar ffasâd adeilad MOSTYN, sydd hefyd yn digwydd yn ystod LLAWN05.

Yn fersiwn gyntaf ‘DYDD’ bydd Nicola Dale yn cyflwyno The Act of Reading (2017) drwy gydol dydd Sadwrn, 16 Medi.
Ar gyfer y darn hwn mae Dale yn dynwared osgo ac ystumiau cyfres o ferched sy’n darllen mewn darluniau hanesyddol.

Mae hyn yn ein hatgoffa beth oedd pwrpas gwreiddiol MOSTYN, sef cartref dros dro i arddangosiadau gan Gymdeithas Celfyddydau Merched Gwynedd, yn ogystal â chysylltu â rhaglen arddangosfa ddiweddaraf MOSTYN sydd wedi defnyddio’r hanes hwn o’r gorffennol i ysbrydoli arddangosiadau yn y presennol.

Mae natur gudd y gorffennol hefyd yn cael ei greu gan berfformiad The Act of Reading (2017) ei hun – perfformiad y gallai rhywun brin sylwi arno, wrth iddo ymdoddi i gefndir bywyd bob dydd a dim ond wrth ei astudio yn agosach y gwelir ei gynildeb.

Cyflwynwyd fel rhan o

www.llawn.org