O’r goedwig a'r ardd

Chiara Camoni
Gweithdy Chiara Camoni
  • Gweithdy

O’r goedwig a'r ardd

Gweithdy printio llystyfol gyda'r artist o’r Eidal, Chiara Camoni
22 Medi 2019, 11:00am

11.00yb-3.30yp

 

Bydd blodau a dail sydd â nodweddion lliwio yn cael eu defnyddio i wneud gwasgnodau uniongyrchol ar ddefnydd, gan grisialu hanfod Llandudno yn y gwaith.  Bydd y darnau, fydd yn cael eu gwneud fel rhan o broses ar y cyd, yn cael eu harddangos ym MOSTYN (9 Tachwedd 2019 - 1 Mawrth 2020) a byddant yn ymddangos mewn cyhoeddiad.

Dywed yr artist, Chiara Camoni, ‘Mae’r broses yn cynnwys sawl cam ac at ei gilydd nid oes modd rhagweld y cynnyrch: mae wastad yn syrpreis. Mae hyn yn gwneud y ffigyrau yn ddrychiolaethau dilys, hyd yn oed i mi. Fe ddefnyddiais flodau a phlanhigion o’m gardd ac o'r goedwig y tu allan i’r tŷ. Maen nhw’n ddelweddau o’r natur sy’n fy amgylchynu ac sy’n newid gyda’r tymhorau.’

 

 

 

 

 

 

Booking: 

AM DDIM (Archebu’n hanfodol)

Galwch 01492 868191 neu e-bostio [email protected] i archebu lle.