- Gweithgaredd i blant
Plethu rhwng y Llinellau
Mae disgyblion o Ysgol Tudno yn Llandudno yn falch o gyflwyno arddangosfa, o'r enw 'Plethu Rhwng y Llinellau', a gynhelir ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill a dydd Sul 1 Mai yn yr ysgol yn Trinity Avenue..
Canlyniad prosiect artist preswyl dros gyfnod o bum wythnos yw'r arddangosfa dros dro, sy'n ran o bartneriaeth cyfredol gyda ni. Bydd yna digwyddiadau yn ystod y penwythnos.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r arddangosfa gan yr artist Diango Hernández, a anwyd yng Nghiwba, sydd i’w weld yn Oriel 3 yn MOSTYN, mae dau ysgrifennwr, Martin Daws a Heather Dyer, a dau artist, Tim Dickinson a Mandy Coates, wedi gweithio gyda disgyblion o flwyddyn 5. Mae nhw wedi cynhyrchu gwaith gyda’i gilydd yn cynnig adweithiau unigol i waith celf Hernández.
Mae MOSTudno yn brosiect sydd yn bartneriaeth rhwng MOSTYN a’r ysgol gynradd leol Ysgol Tudno. Dyma’r ail gyflwyniad yn y prosiect hir dymor, cydweithredol hwn.
Mae'r bartneriaeth ehangach, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a elwir MOSTudno, yn bwriadu i artistiaid a staff yr oriel weithio ochr yn ochr â phlant, staff, rhieni a neiniau a theidiau. Un o brif amcanion y prosiect cyntaf hwn gyda'r bartneriaeth yw bod y disgyblion ysgol, a'r gymuned ehangach, yn cael y cyfle i fynd i'r afael â'r broses y mae'r artist yn ei ddilyn wrth fynd ati i greu corff o waith.
Bydd agoriad swyddogol yr arddangosfa yn yr ysgol am 11am ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill. Mae croeso i bawb.
cefnogi gan