Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Jude Riley image
Jude Riley
  • Gweithdy

Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Marmorio Papur a Sidan gyda Jude Riley
24 Mawrth 2018, 11:00am

11am-5pm

Trochwch wynebau mewn paent i wneud patrymau syfrdanol

Bydd gweithdy Jude Riley yn trin byd unigryw a lliwgar marmorio. Crëwch batrymau gan ddefnyddio paentiau sy’n arnofio ar ddŵr! Bydd unrhyw beth amsugnol a gaiff ei drochi yn y patrwm yma yn trosglwyddo’r paent o’r dŵr at wyneb y gwrthrych. Gan ddefnyddio papur a ffabrigau gall hyn greu arwynebau syfrdanol y gellir eu gwneud yn unrhyw beth! Byddwch yn gadael gyda’ch papur marmor eich hun, a thechnegau y gallwch eu defnyddio adref.

Ynglŷn â’r artist:

Dwi’n marmorio ers dros 20 mlynedd. Des i ar draws erthygl ynglŷn â marmorio ac ar ôl ychydig arbrofi petrusgar roeddwn i wedi fy nal yn llwyr. Dwi’n seilio fy nhechnegau ar farmorio traddodiadol Ewropeaidd; caiff pigmentau eu harnofio ar fath o ‘seis’ wedi’i baratoi gyda gwymon bwyta. Yna caiff y lliwiau eu trin i amrywiaeth ddiddiwedd o batrymau y gellir eu codi o wyneb y bath ar dalen o bapur neu hyd o ffabrig sidan. Dwi hefyd yn cynhyrchu rhai cynlluniau wedi’u hysbrydoli gan farmorio Siapaneaidd, Suminagashi. Gan ddefnyddio techneg fymryn yn wahanol, dwi’n cynhyrchu patrymau cyfredol beiddgar sy’n cadw ceinder llyfn Suminagashi traddodiadol. Daw f’ysbrydoliaeth o fy hoffter o liw ac o’r broses farmorio ei hun. Dwi’n mwynhau trin y lliwiau sy’n arnofio a cheisio canfod y cydbwysedd rhwng rheolaeth a hap.

£12.50 y gweithdy neu 3 am £30
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.

Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.

Booking: 

Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)