Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

delwedd James Griffiths
James Griffiths
  • Gweithdy

Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Canfod Bydoedd gyda James Griffiths
31 Mawrth 2018, 11:00am

11am-5pm

Adeiladwch dirweddau miniatur i dwyllo’r camera

Bydd gweithdy James Griffiths yn troi eich golwg o’r byd ben i waered! Gan ddefnyddio dim ond blawd, pigmentau lliw a byrddau cylched, gallwch greu tirweddau miniatur. Mae ffotograffio arwynebau gan ddefnyddio lens arbennig yn creu’r rhith o ffotograffiaeth o’r awyr, gyda rhesi o wrthrychau pitw yn mynd yn nenlinell ddinas faith. Dysgwch dechnegau ffotograffiaeth newydd, gan adael gyda ffotograffau o’ch tirweddau ffug.

Ynglŷn â’r artist:

Artist Prydeinig ydy James, wedi’i leoli ym Mryste, Lloegr. Mae ei waith yn troi’n aml o gwmpas diwylliant, gwleidyddiaeth ac ideoleg y Dwyrain Canol. Wedi tystio i drawsnewid cyflym tirwedd gorfforol a diwylliannol yr ardal, mae James wedi cymryd diddordeb arbennig yn y syniad o ddadleoliad diwylliannol. Mae ei waith diweddaraf yn ymchwilio i’r berthynas rhwng lle a hunaniaeth, gan greu dogfennaeth ffuglennol drwy ddefnydd amrwd o ddelweddau o’r ardal. Mae’r gwaith yn archwilio hygrededd yr wtopia gorllewinol yn nhirwedd y Dwyrain Canol.

£12.50 per workshop or 3 for £30.

Workshops include a 1 hour break. Please bring packed lunches.

£12.50 y gweithdy neu 3 am £30
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.

 

Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.

Booking: 

Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)

Neu archebwch ar-leinhttps://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533