Iain Perry
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
Sgrin-brintio gydag Iain Perry
14 Ebrill 2018, 11:00am
11am - 5pm
Printio paent mewn haenau i greu gwaith celf syfrdanol
Bydd gweithdy Iain Perry yn dangos i chi sut i greu eich gwaith celf sgrin-brintiedig eich hun. Dysgwch sut i ddatgymalu eich cynllun yn haenau gwahanol cyn dod â nhw’n ôl at ei gilydd gan ddefnyddio paentiau o wahanol liwiau. Mae’n ffordd wych o hyfforddi’r ymennydd i weld celf yn ei holl rannau unigol. Byddwch yn gadael gyda’ch sgrin-brint eich hun a gwell dealltwriaeth o’r byd celf print.
Ynglŷn â’r artist:
Caiff Print Garage ei redeg gan Iain Perry, artist a sgrin-brintiwr sy’n creu sgrin-brintiau o haenau dyfnion, wedi’u trwytho gyda lliw ac mewn lluniau araf. Mae ei waith yn benthyg iaith o ffurfiau celf eraill gan gynnwys ffilm a ffotograffiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth electroneg a’r diwylliant ‘rave’ - wrth gyfuno, cymysgu ac ailgymysgu, gan gynnig arwyddion ac arwyddwyr cyfarwydd ond wedi’u plygu a’u hadlewyrchu rŵan, yn dwyllodrus ac awgrymiadol, y cyfan â blas ysgafn elfen gynnil o danseiliad. Mae haenau o eiconograffiaeth a geometreg tameidiog yn ymgyfuno ar y papur, fel brychau o lwch wedi’u dal ar belydr o olau gan ein herian gyda chipolwg digywilydd o gestalt llawer mwy. Mae cenhedlu’r ddelwedd yn broses araf o arbrofi, o geisio a methu; casglu delweddau, datblygu patrymau a gorchuddio’r gwahanol elfennau nes bod perthnasau newydd a difyr yn ymddangos.
£12.50 y gweithdy neu 3 am £30.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533