
- Gweithdy
Portffolio: Dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
10:30yb - 3:30yp
Mae defnyddio ffotograffiaeth fel arf greadigol yn aml yn her. Gall fod yn ddryslyd iawn adnabod pa ISO, agorfa neu lens i’w defnyddio wrth gipio’r ddelwedd berffaith. Mae’r gweithdy arbrofol yma’n defnyddio’r broses o falu pethau’n ddarnau er mwyn dod at ddealltwriaeth well o brosesau ffotograffiaeth. Caiff casgliad o gamerâu hen a modern eu datgymalu er mwyn i chi allu dysgu sut roedden nhw’n gweithio. Yna caiff y rhannau eu defnyddio i greu detholiad o gamerâu arbrofol newydd sbon. Bydd rhan olaf y sesiwn yn caniatáu i chi ddefnyddio eich camera Frankenstein, i adnabod ei gyfyngiadau ac i ddeall sut i gael y gorau o’ch teclyn ffotograffiaeth newydd.
Ynglŷn â’r artist:
Artist a Thechnolegydd o Gymru ydy Charles. Mae ei brif waith yn ymwneud â cherflunio electroneg, perfformiad sain a chyfryngau digidol. Gan seilio ei waith ar berthynas sythweledol a symbiotig â thechnoleg, mae Charles yn defnyddio dyfeisiau wedi’u creu’n arbennig i greu gwaith sy’n cynnwys gosodiadau, perfformiadau a ffilm gydag esthetig beiriannol noeth iawn. Mae Charles yn gefnogwr brwd o gelf fel arf ar gyfer addysg a lles, ac mae’n gweithio mewn ysgolion a’r gymuned er mwyn rhannu syniadau a dysgu ymarfer creadigol fel ffordd o wella pob agwedd o fywyd dyddiol.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://tinyurl.com/y9loqt86