
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
11.00yb - 5.00yh
Mae hwn yn weithdy gwerth chweil i ddarganfod y technegau sylfaenol o argraffu ar sgrîn , sut i gymysgu lliwiau, stensilio a throshaenu lliwiau.
Gan ddefnyddio print papur newydd i dorri stensiliau sydd wedi eu darlunio â llaw yna bydd y myfyrwyr yn creu nifer o argraffiadau sgrîn i greu haenau ac i sylwi ar ddelweddau ffigurol, haniaethol neu cymysgedd o’r ddau.
Bydd y gweithdy yn dangos sut y gellwch sefydlu eich safle argraffu gartref!
£12.50 y gweithdy neu £50 am y pum gweithdy.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.