Mark Haig
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
Cerflunio Mecanyddol gyda Mark Haig
10 Chwefror 2018, 11:00am
11.00yb - 5.00yh
Creuwch anghenfil metel gyda nytiau a bolltau
Yng ngweithdy Mark Haig byddwch yn adeiladu robotau o bob maint! Bydd y gweithdy yma’n eich dysgu sut i wneud cerfluniau metel gan ddefnyddio nytiau a bolltau a llawer o fân ddarnau. Gall fod ar ffurf ddynolyn, anifail neu lysieuyn! Bydd Mark hefyd yn mynd drwy ei robotau aml-ddefnydd, gyda goleuadau a sain gweithredol a mwy. Gweithdy gwych ar gyfer unrhyw un â diddordeb mewn cerflunio, roboteg a chelf ailgylchedig.
Ynglŷn â’r artist:
Fy enw i ydy Mark a thua 40 mlynedd yn ôl byddwn i’n eistedd o flaen tân trydan fy rhieni gan wneud robotau a llongau gofod o gogiau, olwynion a darnau o bren y byddai fy nhad yn dod efo fo o’i waith yn trwsio clociau. Neidiwch ymlaen at heddiw a dyma fi’n gwneud ‘Gizmobots’. Robotau ydy Gizmobots wedi’u gwneud o wrthrychau o sgipiau, siopau ail-law, sêls bŵt a iardiau sgrap. Caiff pob robot ei grefftio’n ofalus gen i fel bod yr holl rannau’n dod at ei gilydd i greu robot od deniadol iawn, pob un â’i bersonoliaeth unigryw. Fel peiriannydd electroneg cymwys, fydda i weithiau’n ailddefnyddio hen offer electroneg i roi defnydd i rai o’r robotau dwi’n eu creu, fel doc i-Pod, golau desg neu radio weithredol.

£12.50 y gweithdy neu 3 am £30.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-1420798...