Marc Jackson
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
Hanfodion y Llyfr Comic gyda Marc Jackson
17 Chwefror 2018, 11:00am
11.00yb - 5.00yp
Creu eich cymeriadau, straeon a stribedi comic eich hun
Bydd gweithdy Marc Jackson yn dysgu popeth i chi y byddwch chi ei angen er mwyn gwneud eich comic eich hun! Dysgwch am ddylunio cymeriad, creu storifwrdd a naratif oddi wrth artist proffesiynol o’r diwydiant. Gan ddefnyddio’r offer yma byddwch chi’n gadael gyda’ch stribed comic eich hun, a gwell dealltwriaeth o’r byd comics. Os oes gennych chi gymeriadau’n datblygu yn eich llyfr brasluniau, dewch â fo efo chi er mwyn rhoi stori iddyn nhw.
Ynglŷn â’r artist:
Cartŵnydd o Macclesfield yn Sir Gaer ydy Marc Jackson. Mae wedi creu cymeriadau ar gyfer comics The Beano, Aces Weekly, Comic Heroes Magazine, rifìw The Brooklyn Red-Hook Star a MooseKid. Mae’n hunan-gyhoeddi comics yn rheolaidd ac yn 2017 cafodd ei gomisiynu gan ŵyl y Lakes International Comic-art i greu comic ‘Dyma Cat Stevens yn dod!’, wedi’i gyllido gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Bydd ei gomic diweddaraf ‘Donald Dogsbody does the dishes and other screwball stories’ yn cael ei ryddhau yn haf 2018. Mae Marc hefyd yn rhedeg gweithdai lluniadu mewn ysgolion, llyfrgelloedd a gwyliau drwy’r wlad, ac yn trefnu MACC-POW, digwyddiad comic undydd yn ei dref enedigol, sydd yn ei 3edd blwyddyn eleni.
£12.50 y gweithdy neu 3 am £30.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol.
Ffoniwch 01492 868191 (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533