Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Jonathan Brier image
Jonathan Brier
  • Gweithdy

Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Bywluniadu gyda Jonathan Brier
17 Mawrth 2018, 11:00am

11.00yb - 5.00yh

Cwrs dwy-ran yn edrych ar y ffurf ddynol gan ddefnyddio ystumiau cyflymder uchel, siarcolau a phaentiau olew

Jonathan Brier’s workshops will look at the human body and how to capture it on paper.
Over two sessions, you will learn how to use a variety of mediums to draw the human figure. Perspective, proportion, shading and tone will be brought together to help you break down the anatomy of the model. You’ll come away with a collection of partial and whole figure sketches, drawings and paintings.

Bydd gweithdai Jonathan Brier yn edrych ar y corff dynol ac ar sut i’w ganfod ar bapur. Dros ddwy sesiwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau i luniadu’r ffurf ddynol. Caiff persbectif, cyfrannedd, graddliwio a thôn eu dwyn ynghyd er mwyn eich helpu i fanylu ar anatomi’r model. Erbyn y diwedd bydd gennych chi gasgliad o frasluniau, luniadau a phaentiadau o ffigyrau rhannol a chyflawn.

 

Ynglŷn â’r artist:
"Dwi’n cael rhyddhad a rhyddid o fy ngwaith haniaethol, mewn gwrthgyferbyniad â’r astudiaethau tynnach, mwy arsylwadol yn fy ngwaith bywyd llonydd a ffigwrol. Gall fy ngwaith mwy gymryd misoedd i’w gwblhau, gan arwain at arafu naturiol ar gynnydd, fodd bynnag drwy ei gymysgu â gwaith llai heb berthynas amlwg dwi’n llwyddo i gadw fy syniadau’n ffres ac yn fyw. Mae fy ngwaith hyd yma wedi esblygu’n naturiol ac, yn bwysicach, felly hefyd fy mhynciau. Roedd dod yn arlunydd yn flaenoriaeth i mi erioed, felly dydw i erioed wedi teimlo’r angen i ddatgan rhywbeth drwy fy ngwaith dim ond er mwyn gwnued neu er mwyn cyfiawnhau fy hun fel ‘Artist’. Nid bod fy ngwaith hyd yma heb unrhyw gynnwys, ond ei fod yn lleoledig yn y darn unigol. Dwi’n teimlo bellach fy mod i wedi darganfod fy mhwnc a dwi’n barod i’w archwilio." Jonathan Brier


£12.50 y gweithdy neu 3 am £30
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.


Be' ydy Portffolio?

Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.

Booking: 

Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)

Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533