PROCESSIONS 2018 Digwyddiad Lansio

delwedd PROCESSIONS
PROCESSIONS 2018
  • Sgwrs

PROCESSIONS 2018 Digwyddiad Lansio

Dewch draw am fwy o wybodaeth
28 Ebrill 2018, 11:00am to 1:00pm

Mewn partneriaeth gyda CALL - Culture Action Llandudno, rydym yn lansio PROCESSIONS 2018 yn HAUS, 26 Augusta Street, Llandudno

Digwyddiad AM DDIM. Mae croeso i chi aros am y bore a / neu brynhawn.

11:00 - 11:45 yb:
Bydd haneswraig lleol Barbara Lawson-Reay yn sgwrsio amdan "Suffragists" Gogledd Cymru.
Wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer sgwrs am fudiad y Swffragetiaid, daeth o hyd i gyfoeth o wybodaeth am weithgarwch lleol. Cyhoeddwyd ei llyfr Votes for Women: The North Wales Suffragists' Campaign 1907-1914 yn 2015.

12:00 yp
Bydd Melanie Miller yn trafod rôl allweddol baneri a thecstilau, ynghyd ag arteffactau gweledol eraill, yn yr ymgyrch i sicrhau'r bleidlais i ferched.
Mae artist tecstiliau Melanie Miller  yr artist arweiniol ar gyfer priosect PROCESSIONS - 100 mlwyddiant y bleidlais i ferched sef prosiect ar cyd rhwng MOSTYN a CALL am gosod cyd-destun y prosiect. 

Gweithdai gwneud baneri tecstil:
12, 19, 26 Mai, 11am-4pm
10 Vaughan Street, Llandudno

ac yn y prynhawn
1:00yp

Bydd CINIO yn cael ei ddarparu i chi a bydd hwn yn gyfle i rwydweithio a gweld y gwaith celf a grëwyd yn ystod mis Ebrill yn HAUS ar gyfer y prosiect mam.mom.mum

2:00yp: 
Yn ystod mis Ebrill, bydd yr artistiaid Alana Tyson, Rebecca F. Hardy, Emily Hillman, Elly Strigner a Rebecca Gould, sydd hefyd yn famau, yn creu gwaith i ymateb i thema mamolaeth. Bydd y gweithiau hynny yn cael eu harddangos yn Nhŷ Tedder a bydd yr artistiaid yn trafod eu profiad yn ystod prosiect mam.mom.mum, yn ogystal â'u profiad ehangach o fod yn famau sy'n creu celfyddyd.

3:00yp: 
Bydd yr artist o Lerpwl, Tabitha Moses, yn trafod ei gwaith gwobrwyol (Gwobr Gelfyddyd Lerpwl) sy'n cynnwys cyfres "Investment", sy'n ymwneud â thriniaeth ar gyfer anffrwythlondeb.

Cafodd prosiect PROCESSIONS ei gomisiynu gan 14-18 NOW a’i gynhyrchu gan Artichoke.
Cafwyd cymorth gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Cynhyrchir PROCESSIONS Caerdydd gan Artichoke ar y cyd â Gŵyl y Llais a Chanolfan Mileniwm Cymru.