- Adnoddau Dysgu
Rydym Yn Gymuned, Antoine Simeão Schalk & Danniel Tostes
Ar gael Dydd Mawrth – Sul – 11yb – 3yp, AM DDIM
Ochr yn ochr ag arddangosfa unigol Tarek Lakhrissi, Fy Anfarwol, rydym wedi gweithio gyda’r artistiaid Antoine Simeão Schalk a Danniel Tostes i gynhyrchu pecyn adnoddau dysgu sy’n addas ar gyfer grwpiau a theuluoedd gyda phlant 6+ oed.
Ydych chi'n rhan o gymuned? Ble ydych chi'n teimlo fel rhan o gymuned? Beth mae cymuned yn ei olygu i chi? A yw'ch teulu yn gymuned? Atebwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio'r gweithgareddau lluniadu a digidol chwareus hyn gyda ffrindiau a theulu pan ydych yn ymweld â MOSTYN. Mae'r pecynnau adnoddau dysgu hefyd ar gael fel PDF i'w hargraffu a'u defnyddio gartref.
Gyrrwch e-bost atom ar [email protected] cyn i chi ymweld â'r oriel i archebu pecynnau adnoddau ymlaen llaw. Rhowch o leiaf 3 diwrnod o rybudd i ni cyn eich ymweliad i roi amser i ni baratoi'r pecynnau. Mae pecynnau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Cadwch yn Ddiogel
Mae'r Pecynnau Adnoddau Dysgu wedi'u datblygu yn unol â chanllawiau diogelwch Covid-19. Mae pecynnau a gesglir o'r oriel yn cynnwys nifer gyfyngedig o bensiliau lliw a fydd yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr rhwng defnyddiau. Pan fyddwch wedi gorffen gyda'r pecynnau, gofynnwn yn garedig os gallwch ddychwelyd y pensiliau i'n desg flaen a glanweithio'ch dwylo cyn ac ar ôl eu defnyddio.