- Sgwrs
Sgwrs gyda’r artist Mark Beldan
Ganwyd Mark Beldan yng Nghanada ym 1976. Astudiodd ym Mhrifysgol Queen's yn Kingston, Canada a Choleg Celf a Dylunio Central Saint Martins yn Llundain.Yn ei baentiadau mae'n archwilio'r cilfachau esgeulusedig o gymdogaethau cyfarwydd a'r hanesion anghysurus sy'n llechu yma a thraw yn y llefydd hyn. Mae'r gwaith wedi ei arddangos yn rhyngwladol gyda chynydd yn y sylw a roddir i osod y paentiadau mewn mannau anghyfarwydd yn yr oriel. Cafodd dau o luniau Mark Beldan eu dewis ar gyfer MOSTYN Agored 19. Mae'n byw ac yn gweithio yn Llundain.
Bydd Mark yn sgwrsio am ei waith diweddar a rhai o'r dylanwadau sydd wedi ffurfio ei beintiadau. Bydd yn trafod y modd didaro y daeth i wybod am baentio a chelfyddyd gyfoes: ar y teledu, ar gloriau recordiau, mewn cylchgronau, neu ar-lein. Ydi hi'n bosib adlewyrchu'r broses anwadal hwn wrth greu arddangosfa?