- Sgwrs
Sgwrs a Lansiad Llyfr
13 Rhagfyr 2012, 7:00pm
Ymunwch gyda ni am lansiad Y Llwybr Llaethog– y cyhoeddiad i gyd-fynd ag arddangosfa Radovan Kraguly.
Sgwrs gyda’r artist Radovan Kraguly ar achlysur lansio’r cyhoeddiad sy’n cyd-fynd â‘i arddangosfa adolygol bwysig Y Llwybr Llaethog, ymlaen ynMOSTYN hyd Ionawr 6ed.
Wedi ei chynllunio gan Carlos Monleon Gendell mae’r gyfrol llawn lliw ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn cynnwys ysgrifau gan Alfredo Cramerotti, Aleksander Bassin, Ian Hunter a Fernando Garica-Dory, fu hefyd yn golygu, ar waith ac arwyddocad Radovan Kraguly.