
- Sgwrs
Trais: stori rymus
Mae Andrew Hiscock yn canolbwyntio ar bwysau trais wrth werthfawrogi celf, llenyddiaeth a’n bywydau bob dydd. Mae’n edrych ar y ffyrdd y mae ymddygiad ymosodol wedi ei adolygu a’i ail-ffurfio gan genedlaethau olynol o feddylwyr ers yr Ail Ryfel Byd a sut y gall ystyriaethau o'r fath siapio’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â diwydiannau creadigol ac, yn wir, y byd y tu allan i’n drws ffrynt.
Cyfres o ddarlithoedd ‘Lle mae celf a geiriau’n cwrdd’
Beth yw llenyddiaeth? Beth yw celf? Beth yw prydferthwch? Mae’r berthynas rhwng arlunydd, awdur, a chynulleidfa yn llawn disgwyliadau anesmwyth o ran canfod ‘ystyr’. Fodd bynnag, mae llenyddiaeth a chelf yn ffynnu mewn mannau lle y mae celf a geiriau’n cwrdd, a lle bydd ystyr yn rhwygo ar agor i ddatgelu bydoedd gwahanol a dulliau gweithredu newydd. O fwrw golwg hanesyddol ar drais mewn llenyddiaeth, i'r mannau lle y mae elfennau naratif yn troi’n dapestrïau digidol, mae geiriau’n cyfnewid eu hystyr i ddod yn synau, a phersbectif yn ail-lunio dulliau creadigol i ddod yn gelfyddyd newydd.
Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn archwilio celf a llenyddiaeth fel mannau rhyngweithiol ar gyfer gofyn cwestiynau yn hytrach na gorfodi ystyr.
18 Mai, 4:00yp
Trais: stori rymus - Darlith gan yr Athro Andrew Hiscock
25 Mai, 2:30yp
Dweud stori yn yr oes ddigidol - Darlith gan Dr Lyle Skains
1 Mehefin, 2:30yp
Cwestiynu persbectifau anodd mewn gofodau cyffredin - Darlith gan Jordan Glendenning
8 Mehefin, 2:30yp
Trin celf gyda Dada - Darlith gan Dr Sarah Pogoda
15 Mehefin, 2:30yp
Gwneud i gelf ysgrifennu: gofodau mewn orielau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu - Darlith gan Dr DeAnn Bell
Booking:
AM DDIM
Argymhellir archebu lle drwy ffonio01492 868191 neu ymweld â'r oriel