Trin celf gyda Dada

  • Sgwrs

Trin celf gyda Dada

Darlith gan Dr Sarah Pogoda
8 Mehefin 2019, 2:30pm

Zurich, 1916 – Mae cenhedloedd Ewrop yn rhyfela. Fodd bynnag, mae arlunwyr o bob cwr o Ewrop yn dod ynghyd yn Zurich i ddilyn eu brwdfrydedd dros gelf, yn enwedig barddoniaeth, sy’n croesi cenhedloedd – ac maent yn dod o hyd i Dada.  Dada oedd eu hateb i ideolegau eu cyfnod, Dada oedd eu hateb i syniadau llym ynghylch celf, Dada oedd eu hateb i bopeth. ‘Pam na all coeden gael ei galw’n ‘Pluplusch’, ac yn ‘Pluplubasch’ pan mae hi wedi bod yn bwrw glaw?’ Mae cwestiwn syml Hugo Ball yn hoelio dychymyg pwerus Dada a weddnewidiodd ein ffyrdd o greu a gweld celf hyd heddiw.

Cyfres o ddarlithoedd ‘Lle mae celf a geiriau’n cwrdd’

Beth yw llenyddiaeth? Beth yw celf? Beth yw prydferthwch? Mae’r berthynas rhwng arlunydd, awdur, a chynulleidfa yn llawn disgwyliadau anesmwyth o ran canfod ‘ystyr’. Fodd bynnag, mae llenyddiaeth a chelf yn ffynnu mewn mannau lle y mae celf a geiriau’n cwrdd, a lle bydd ystyr yn rhwygo ar agor i ddatgelu bydoedd gwahanol a dulliau gweithredu newydd. O fwrw golwg hanesyddol ar drais mewn llenyddiaeth, i'r mannau lle y mae elfennau naratif yn troi’n dapestrïau digidol, mae geiriau’n cyfnewid eu hystyr i ddod yn synau, a phersbectif yn ail-lunio dulliau creadigol i ddod yn gelfyddyd newydd.

Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn archwilio celf a llenyddiaeth fel mannau rhyngweithiol ar gyfer gofyn cwestiynau yn hytrach na gorfodi ystyr. 

8 Mehefin, 2:30yp   

Trin celf gyda Dada - Darlith gan Dr Sarah Pogoda

15 Mehefin, 2:30yp

Gwneud i gelf ysgrifennu: gofodau mewn orielau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu - Darlith gan Dr DeAnn Bell

 

Booking: 

AM DDIM 

Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01492 868191 neu ymweld â'r oriel