Verity Pulford - Dosbarth Meistr Gwydr

Verity Pulford
Verity Pulford
  • Gweithdy

Verity Pulford - Dosbarth Meistr Gwydr

18 Mehefin 2016, 10:30am to 4:00pm

Yn ystod y dydd, bydd yr artist gwydr Verity Pulford, yn eich helpu i ddylunio ac addurno addurn lliwgar a llun wedi'i fframio, wedi'u llunio o wydr. Bydd Verity yn dangos technegau sgraffito gwydr a bydd wrth law i'ch arwain drwy'r broses. Dewch â brasluniau, delweddau neu batrymau gyda chi i'w defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer eich dyluniadau. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Bydd Verity yn crasu ac yn fframio pob darn yn barod i chi eu casglu o MOSTYN ar ddyddiad arall, yn fuan ar ôl y dosbarth meistr.

Cost: £65 y pen, yn cynnwys deunyddiau. Mae'n rhaid i chi gadw eich lle yn y digwyddiad hwn.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Mae croeso i chi dodd â'ch cinio eich hun, neu gael rhywbeth o'n caffi.

Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle: Ffoniwch 01492 868191 neu ebostiwch [email protected]