Ymerodraeth - Hanes ac Etifeddiaeth

Sgwrs gan yr Athro Gurminder K Bhambra
Yr Athro Gurminder K Bhambra
  • Sgwrs

Ymerodraeth - Hanes ac Etifeddiaeth

Sgwrs gan yr Athro Gurminder K Bhambra
14 Medi 2019, 2:30pm

Mae Prydain - ac Ewrop yn fwy cyffredinol - yn gwadu ei gorffennol trefedigaethol ac ymerodrol. Nid oes llawer o gydnabyddiaeth o’r gorffennol hwnnw, er enghraifft, mewn trafodaethau cyhoeddus am faterion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol byd-eang cyfoes. Mae rhai yn dadlau, sut bynnag, nad yw tra-arglwyddiaethu ar eraill drwy ymerodraeth yn unigryw i Ewrop: oni ddylem siarad am y Rhufeiniaid a’r Otomaniaid hefyd?

 

Bydd y sgwrs hon yn dadlau bod rhywbeth gwahanol am ymerodraethau Ewrop, yn arbennig y dulliau nodedig o dra-arglwyddiaethu drwy gymryd adnoddau - yn cynnwys llafur drwy gaethiwo a phrentisio, a thir drwy ddadfeddiannu - gan greu etifeddiaeth o gyfoeth ac eiddo sy’n parhau i fod o fudd i gymdeithasau Ewropeaidd hyd yn oed ar ôl yr ymerodraeth. Er enghraifft, pan roddwyd terfyn ar gaethwasiaeth, talwyd iawndal i berchnogion caethweision am golli eu ‘heiddo’ ac ni thalwyd y rheini a gollodd eu rhyddid ac a gafodd eu gorfodi i weithio. Ni thalwyd yr holl fond a godwyd ar drethdalwyr Prydain (cenedlaethol a threfedigaethol) am yr iawndal hwn tan 2015. Mae cyfoeth y rheini a ddigolledwyd yn parhau i ddiffinio cymdeithas Prydain drwy etifeddiaeth a pherchnogaeth gorfforaethol a thir. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno’r achos dros gael math gwahanol o gamau i unioni anghydraddoldeb.

 

 

 

 

 

Booking: 

AM DDIM 

Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01492 868191 neu ymweld â'r oriel