- Gweithgaredd i blant
Ymunwch â'r DARLUN MAWR dros hanner tymor
Gweithgareddau Big Draw
Hanner tymor 27 Hydref – 4th Tachwedd 2012
i blant a’u hoedolion
Ewch am dro ar hyd y Llwybr Llaethog – dysgwch gyfrinachau’r Amgueddfa Lefrith drwy weithgareddau arlunio o bob math; wedi eu creu i apelio i blant ac oedolion ac yn rhan o Ymgyrch Tynnu Llun y Big Draw.
Y Ferfa Gelf
Lleoliad: y Tiwb a’r Orielau
Dydd Sadwrn a dydd Sul o 10.30 y bore tan 4.30
Dydd Llun i ddydd Gwener o 10.30 y bore tan 1.30
Cyfle a chroeso i blant ac oedolion roi cynnig ar ein gweithgareddau tynnu llun newydd, cysylltiedig â ffermio.
Ewch i’r Tiwb i gael Sach Gelf o’r Ferfa Gelf a dechreuwch greu. *£1 y Sach *
Gweithdy’r Gadlas
Lleoliad: Yr Orielau a’r Stiwdio
Dydd Llun i ddydd Gwener o 2 tan 4 y prynhawn
Yn dilyn llwyddiant Symudiadau Perffaith, y gweithdy galw-heibio a gawson ni dros yr haf, mae o’n bleser mawr gennym ni gyflwyno antur arlunio newydd sbon i’r teulu cyfan. Mae o’n cynnwys gweithgareddau tynnu llun yn yr orielau ac ar wal arlunio anferth y Stiwdio, ac yn addo bod yn wyliau hanner tymor llawn o lol amaethyddol a mwyniant mynydd Cymreig yma ym MOSTYN!
Booking:
£1 y pen