Ymyrryd â’r Pwythau: Y Nodwydd fel Brwsh Paent gyda Francesca Colussi

Francesca Colussi
Francesca Colussi
  • Gweithdy

Ymyrryd â’r Pwythau: Y Nodwydd fel Brwsh Paent gyda Francesca Colussi

Gweithdai i oedolion
26 Awst 2018, 10:30am to 4:00pm

Gan weithio gyda Francesca byddwch yn trawsnewid hen gardiau post a hen luniau i greu eich stori bersonol eich hun, gan ddylunio gydag edau a nodwydd. Byddwch yn ychwanegu lliwiau, geiriau, naratif ffraeth a swreal, neu siapiau a phatrymau haniaethol a geometrig ar effemera papur, gan greu eich gwaith celf personol.

Bydd Francesca yn eich cyflwyno i bwythau, edau a nodwyddau gwahanol, gan egluro rhai o'r pwythau brodwaith mwyaf cyffredin a'r gwahaniaeth rhwng gweithio gyda brethyn a phapur. Byddwch chi'n dehongli'n greadigol gan ddefnyddio rhai o'r pwythau brodwaith syml: y nodwydd fydd eich pensil a'r edau fydd eich paent. O grombil eich dychymyg, byddwch yn creu stori newydd ar gyfer y ddelwedd wreiddiol, gosod haenau o bwythau dros hen gardiau post a chreu dimensiwn gweadeddol newydd, gan gwthio'r ffiniau rhwng darlunio, celf gain a chrefft.

Does dim angen profiad blaenorol o frodwaith arnoch chi.

Croeso i ddechreuwyr a’r rhai sy’n chwilio am sgiliau newydd.

Mae croeso i chi ddod â'ch cardiau post eich hun neu ddelweddau rydych wedi’u darganfod cyhyd â'u bod yn ddigon cadarn i gael eu pwytho â llaw.

Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.

Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.

£45 yr pen.

Booking: 

Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.

01492 868191 neu [email protected]