Alek O.

Exhibition

Alek O.

Oriel 6: Esgyn
27 Ebrill - 7 Gorffennaf 2013

Ganwyd Alek O. yn Buenos Aires, a bu’n byw yn Milan cyn symud i Lundain lle mae’n byw a gweithio ar hyn o bryd.

Mae hi’n aml yn defnyddio gwrthrychau parod yn ei gweithiau celf gan fabwysiadu ac addasu dulliau traddodiadol o wneud celf megis paentio, lluniadu a brodio. Wrth drawsffurio gwrthrychau iddi ganfod neu eu cael yn rhodd at ei gwaith – gwrthrychau personol iddi hi ei hun neu rhai oedd arfer a bod ym mherchnogaeth ei theulu neu ffrindiau – mae’n newid eu ffurf a’u hymddangosiad mewn ffordd arbennig sy’n dwyn i gof gyfnodau penodol mewn hanes celf, sef Minimaliaeth ac Arte Povera. Gyda’r broses drawsffuriol yma, mae hi hefyd yn croniclo hanes blaenorol y gwrthrych yn ogystal â sut mae’n clymu at ei hanes hi ei hun, boed yn gyfeillgarwch ag eraill, y mudo iddi wneud, neu atgofion ganddi o le penodol. Tra mae ei gwaith yn aml wedi’i drwytho mewn naratif bersonol, mae ganddi ddiddordeb mwn trosi’r naratif hwn i gydestun arddangosfa a chysylltu gyda’r gwyliwr. Cyfeiria ei gwaith y dull unigryw y gall gwaith celf weithredu fel argraffnod neu fynegai o le, amser a phobl. Wrth wau ynghyd y materion sy’n ymwneud â chanfyddiad, cynrychiolaeth ac adeiladu naratif, yn yn bôn mae hi’n cwestiynu ein bodolaeth a’n cof.

Wedi ei lleoli ar lawr uchaf MOSTYN mae Oriel 6 yn ymroddedig i gyflwyno gwaith gan artistiaid ifanc a rhai sy’n dod i’r amlwg, pob un ohonynt eto i gael arddangosfa mewn lleoliad sefydliadol, naill ai’n genedlaethol neu yn rhyngwladol. Mae gofod Oriel 6 a’r rhaglen gysylltiedig, sy’n dwyn yr enw ‘Esgyn’, yn darparu cyfle i artist weithio dan amodau proffesiynol, ac i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ehangach. I’r gynulleidfa hefyd, bydd Oriel 6 yn darparu llwyfan i ddarganfod, wrth ddod ag ystod amrywiol o artistiaid i MOSTYN sydd ar drothwy eu gyrfaoedd ac ar flaen y gad mewn ymarfer celf cyfoes.

Bydd ymddangosiad gofod yr oriel ei hun, gan gynnwys ei pharotoad a’i harwyddion, yn wahanol i’r gofodau oriel eraill ym MOSTYN, gan roi golwg a theimlad o ofod sydd â hunaniaeth ei hun – oriel o fewn oriel.
Bydd pedwar ‘Esgyn’ yn digwydd bob blwyddyn.