Alex Katz

Exhibition

Alex Katz

20 Tachwedd - 12 Mawrth 2011

Fe ddechreuodd yr arlunydd Americanaidd Alex Katz weithio yn y 1950au, gan ganolbwytio ar destunau ffigyrol wnaeth ei roi ar wahân i’r brif ffrwd avant-garde ond a ddaeth iddo gydnabyddiaeth gyhoeddus yn y 1980au pan ddechreuodd llawer o artistiaid ifanc weithio mewn ffyrdd ymagweddol.

Supported by: 

Er ei fod yn fwy adnabyddus am bortreadau graddfa-fawr, wedi eu paentio yn ei ffordd arddulliedig unigryw, fe wnaeth Katz hefyd lawer o baentiadau bach, yn bennaf fel astudiaethau, ond sydd hefyd yn gweithio fel darnau annibynnol y gellir eu hystyried yn gorff unigryw o waith. Mae’r grwp yma o ugain o baentiadau bach yn ARTISTROOMS yn rhychwantu ei yrfa.

Mae ARTIST ROOMS Ar Daith yn bartneriaeth ysbrydoledig gyda elusen gelf anibynnol yr Art Fund a Llywodraeth yr Alban, sy’n gwneud y casgliad o gelf cyfoes rhyngwladol ARTIST ROOMSyn gaffaeladwy i orielau drwy’r DU. Y Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban yw perchnogionARTIST ROOMS ac fe’i sefydlwyd drwy gymunrodd d’Offay yn 2008, gyda chymorth Cronfa Goffaol Treftadaeth Genedlaethol, yr Art Fund a Llywodraethau’r Alban a Phrydain.