Exhibition
Anj Smith
tan 1 Mawrth 2020
9 Tachwedd - 1 Mawrth 2020
Gan weithio'n bennaf drwy baentio, mae gan Anj Smith ddiddordeb mewn adlewyrchu ar union bosibiliadau a chyfyngiadau'r cyfrwng ei hun.
Mae ei gwaith yn tyrchu i hanes celf sy’n cael ei anwybyddu’n aml iawn, ac mae hynny’n cyfuno â'i phrofiadau byw, i ffurfio’r haenau yn ei gwaith. Drwy archwilio ymylon cynrychiolaeth, mae paentiadau Smith wedi'u rendro'n gywrain ac yn archwilio materion hunaniaeth, erotiaeth, marwolaeth a breuder. O fewn ei gweithiau rhyfeddol o fanwl, defnyddir tirweddau gwyllt, ffigurau amwys, tecstilau, a fflora a ffawna prin ac egsotig, gan wau traddodiadau hynafol ac arwyddion cyfoes gyda'i gilydd yn gosmoleg bersonol.
Gan dynnu ar ffynonellau mor amrywiol â gweithiau Lucas Cranach, a ffasiwn Madam Grès, mae Smith yn plethu traddodiadau hynafol ac arwyddion cyfoes gyda'i gilydd yn gosmoleg bersonol. Mae ei phaentiadau yn gyfoethog o ran manylion, lliw a gwead, gan ddymchwel diffiniadau llym o bortread, tirwedd a bywyd llonydd tra’n caniatáu i elfennau o bob un gydfyw.