Annette Kelm
Mae MOSTYN | Cymru’n falch o gyhoeddi arddangosfa unigol yr arlunydd o’r Almaen, Annette Kelm, y cyntaf o’i gwaith mewn sefydliad cyhoeddus yn y DU.
Ar yr olwg gyntaf, ymddengys fod gwaith yr artist Almaeneg, Annette Kelm, yn ymdroi yn y byrhoedlog, y damweiniol a’r mympwyol. Trwy daro golwg mwy craff, fodd bynnag, daw’r sylw y mae Kelm yn ei roi i briodweddau ffurfiol a thelynegol ei gwaith, yn ogystal â dadansoddiad o gyfrwng ffotograffiaeth ynddo ei hun, i’r amlwg. Nid yw ei gwaith yn ffurfiol yn ei hanfod na chwaith yn gwbl gysyniadol, ond mae hefyd yn mudo rhwng amryw genres ffotograffiaeth – bywyd llonydd, portreadu, dogfen a hysbysebu – ble nad oes yr un yn cael blaenoriaeth arbennig.
Ymddengys fod anianawd delweddau Kelm, a’r modd penodol sydd ganddio fframio’r hyn y mae’n tynnu eu llun, wedi eu gosod yn gynnil a hynod ystyrlon. Eto maent yn meddu ar y gallu i fod yn gwbl amwys. Mae ei delweddau’n uno cynnwys sydd i bob pwrpas yn hollol wahanol, ac mae hyn yn wir hyd yn oed yn ei gwaith mwyaf amlwg sy’n darlunio pobl, fel ceir yn yr arddangosfa hon. Mae ansicrwydd o’r fath yn nodwedd sy’n unigryw i Kelm ac un sy’n mynnu i bwysigrwydd y pynciau ei hunain gael ei ystyried.
Tra ymddengys bod cyfeirio cyd-destunol a hanesyddol y gweithiau yn llwyddo i osgoi unrhyw ddehongliad unigol o ran y themâu a’r cyd-destun, gyda’i gilydd dont i gwestiynnu darluniad, cyflwyniad a chynrychioliad delweddau. Er bod gwaith Kelm yn cadw at y ddealltwriaeth draddodiadol o ffotograffiaeth – y cyfrwng sylfaenol sy’n trawsgludo ei syniadau – mae hefyd yn rhoi awgrym o’r cerfluniol; yn y ffordd yma gellid deall ei phractis fel proses gywrain o goreograffi.
Am yr Artist
Ganed Annette Kelm yn Stuttgart ym 1975, ac mae’n byw ac yn gweithio ym Merlin. Mae arddangosfeydd unigol o’i gwaith yn cynnwys y rhai yn Oriel Taka Ishii, Tokyo (2013), Johann König, Berlin (2012); Marc Foxx, LA (2013; Presentation House, Vancouver (2012) ac Andre Kreps, Efrog Newydd (2010).