Annwyl Bortread

Exhibition

Annwyl Bortread

20 Gorffennaf - 13 Hydref 2013

Mae ugain o artistiaid rhyngwladol yn cymryd rhan yn Annwyl Bortread, gyda gweithiau sy’n gwneud defnydd amrywiol o’r portread ac yn gwahodd eu pynciau i ymateb i’r gwaith sy’n ymdrin â nhw. Trwy’r detholiad o’r gweithiau, ynghyd â chysyniad o arddangosfa sy’n rhoi llais i’r sawl a bortreedir, mae Annwyl Bortread yn ysgogi dealltwriaethau newydd o ‘bortread’ ac arddangosfeydd sy’n seiliedig ar themâu traddodiadol. 

ARTISTIAID SY’N CYMRYD RHAN:
Nina Beier, Pierre Bismuth, Maurizio Cattelan, Tim Gardner, Loris Gréaud, Ryan Gander, Gareth Griffith, Isabell Heimerdinger, Carsten Holler, Annette Kelm, David Lamelas, Jessica Longmore, Jerry McMillan, Elizabeth Peyton, Laura Reeves, Wilhelm Sasnal, Wolfgang Tillmans, Mungo Thomson, Ian Wallace, Franco Vaccari

MAE’R SAWL SY’N YMATEB I’R GWAITH, AC SY’N YMDDANGOS YN Y GWAITH YNCYNNWYS:
Ed Ruscha, Jonathan Monk, John Baldessari, Lynda Morris, and Lee Ranaldo ymysg eraill.

Trwy baentio, cerflunio, darlunio a fideo mae Annwyl Bortread yn cynnwys enghreifftiau o ‘bortread’ sy’n ymlynu at safonau traddodiadol, yn ogystal â rhai sydd o bosib yn ehangu’r diffiniad o’r hyn all portreadu fod.

Fel casgliad o bortreadau, mae Annwyl Bortread, yn cynnwys nifer o ymgomiau rhwng artist ac unigolyn neu grŵp o bobl. Er bod yr ymgomio’n gynhenid, mae’r unigolion a gynrychiolir ym mhob darn, trwy gael eu gwahodd i gyflwyno ysgrif mewn ymateb i’r gwaith a’r artist a’i creodd, yn creu un arall. Wrth i’r testunau greu portread ychwanegol ar ffurf y gair ysgrifenedig, maent hefyd yn gwyro oddi wrth y testun deongiladol arferol sy’n cyd-fynd â darn o waith mewn amgueddfa neu oriel. O gael eu dangos ochr yn ochr â‘r gwaith priodol, maent yn cynnig arsylwad dyfnach, gan ddatgelu rhywbeth am y gwaith neu’r artist sydd ar y cyfan yn anhysbys – rhywbeth storïol, cyfarwydd, a sentimental, a phob amser yn bersonol.

Er bod Annwyl Bortread yn cyflwyno’r portread a’i amryw fynegiannau cyfoes, mae hefyd yn adnewyddu’r canfyddiad a’r profiad o arddangosfeydd ar y cyfan – y modd y’u ffurfir, y modd y’u cyflwynir a’r modd y cant eu gweld, eu derbyn a’u dehongli.