Archif Ffotograffau'r Tin Biscedi
Ar drothwy arddangosfa bwysig newydd mae oriel gelf MOSTYN yn Llandudno yn galw ar bobl leol i gymryd rhan mewn prosiect ble bydd darlun cyfoethog o fywyd cefn gwlad yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â gwaith y ffotograffydd enwog, Tom Wood, fydd yn arddangos ei waith yn yr oriel ym mis Ionawr 2014.
---
Fel rhan o brosiect cymunedol uchelgeisiol sy’n cydfynd â‘r arddangosfa, mae MOSTYN yn gwahodd pobl leol i gyfrannu eu ffotograffau ei hunain o fywyd cefn gwlad i’w cynnwys yn yr arddangosfa bwysig hon. Mae’r prosiect a elwir ‘Archif Lluniau’r Tun Bisgedi’ yn deillio o ddiddordeb Tom Wood yn y delweddau personol a gwerthfawr sydd efallai wedi eu rhoi o’r neilltu mewn blwch neu dun, ac sydd yn aml yn ffurfio archif deuluol sy’n pontio’r cenedlaethau.
Mae Wood, sy’n byw ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru ac sy’n darlithio yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-rhos, yn adnabyddus am ei ffotograffau o bobl Lerpwl a Glannau Mersi, ac mae wedi arddangos ei waith dros y byd i gyd. Mae’r arddangosfa newydd hon, ‘Tirluniau’, fodd bynnag yn cyflwyno delweddau o dros ddeugain mlynedd o waith sydd heb eu gweld o’r blaen ac sy’n ymateb i’r wlad o’i gwmpas yng Ngogledd Cymru. Glannau Mersi a Gorllewin Iwerddon. Mae’r arddangosfa’n cynnwys tirwedd wyllt ac anghysbell, darnau o luniau teulu a fideo, a phortreadau serchog o fywyd gwledig, a mwy trefol, o ddydd i ddydd.
Meddai Tom Wood am Archif Ffotograffau’r Tun Bisgedi:
“Rwy’n gobeithio y bydd y delweddau y bydd pobl yn eu cyfrannu’n dweud yr hanesion na all fy lluniau eu dweud”.