Athena Papadopoulos

Exhibition

Athena Papadopoulos

Cain and Abel Can’t and Able - yn dod i ben 23 October 2020
14 Mawrth - 23 Hydref 2020

Portread artist o Athena Papadopoulos gan Holly Márie Parnell, sy'n archwilio ei hymarfer a'i harddangosfa unigol 'Cain and Abel Can't and Able' ym MOSTYN.

Trawsgrifiad Fideo Athena Papadopoulos (Cymraeg)

Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno corff newydd o waith gan yr artist Athena Papadopoulos.

Gan weithio â cherfluniau, paent, testun a sain, mae gwaith Athena Papadopoulos yn herio cynrychioliadau traddodiadol o’r corff, drwy greu ffurfiau hybrid gormodol, pydredig a ffiaidd sy’n hofran rhwng byd dychmygol a’r byd go iawn. Mae hi’n creu ei gwaith drwy gasglu deunyddiau, ac yna’n dod â nhw at ei gilydd ar ffurf collage.Mae canfyddiadau deuaidd traddodiadol o ryw a rhywioldeb yn cael eu dadwreiddio ac maent yn amhenodol.

 
Gan ddefnyddio mwy a mwy o ddefnyddiau a naratifau hynafol, y mae’n eu cyfuno ag elfennau annisgwyl, mae'r gyfres newydd hon o’i gwaith yn cynnwys sain, cerfluniau a phaentiadau. Mae'r arddangosfa yn ymchwilio i ddeuoliaethau dynol, gan gwestiynu'r ddeuoliaeth gymhleth rheswm ac emosiwn. Mae’r gwaith hwn wedi'i ysbrydoli gan ei llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sydd hefyd yn deitl i'r arddangosfa, sydd wedi’i seilio ar stori Feiblaidd Cain ac Abel. Mae Athena yn myfyrio ar ei phrofiadau ei hun yma o ffraeo rhwng brodyr a chwiorydd a’r elfen o gystadleuaeth o fewn perthnasoedd rhamantaidd, ond hefyd, yn hollbwysig, y frwydr rhwng da a drwg.
 
Mae Cain and Abel Can't and Able wedi’i seilio ar ddeialog a ysgrifennodd Athena Papadopoulos, lle mae naratif dychmygol yn digwydd rhwng dau lais gwahanol. Mae Athena Papadopoulos yn archwilio themâu fel cenfigen, chwant a charedigrwydd, ac yn trawsnewid y ddeialog hon yn baentiadau cerfluniol ar wal, sef gwaith sain arbrofol y gellir ei glywed trwy’r oriel a thudalennau'r testun sy'n ailymddangos yn gudd, yn llithro ac yn nythu yn y gosodiad. 
 
Rhifynnau Artist
Mae rhifynnau o weithiau gan Athena Papadopoulos bellach ar gael i'w prynu o'n siop.
 
Pecyn Adnoddau Artist
 
Amdan yr artist
Cafodd Athena Papadopoulos ei geni yn Toronto, Canada yn 1988. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Yn dilyn cwblhau ei BFA ym Mhrifysgol British Columbia (Vancouver, Canada), cwblhaodd radd MFA yn Goldsmiths (Llundain, DU) yn 2013. Dyma rai arddangosfeydd unigol/grŵp sydd ganddi ar y gweill: Cain and Abel Can’t and Able, MOSTYN (Llandudno, Cymru, 2020); Athena Papadopoulos, Emalin (Llundain, Lloegr, 2020), a The Condition of Being Addressable, ICA (Los Angeles, UDA, 2020). Dyma rai o’i harddangosfeydd diweddar: The Apple Nun, Liebaert Projects (Kortrijk, Gwlad Belg, 2019); Holy Toledo, Takotsubo!, wedi’i churadu gan CURA, Kunsthalle Lissabon (Lisbon, Portiwgal, 2019); A Tittle-Tattle-Tell-A-Tale Heart, Humber Street Gallery (Hull, Lloegr, 2019); The Smurfette, Emalin (Llundain, Lloegr, 2017); Belladonna‘s Muse, wedi’i churadu gan Samuel Leuenberger, CURA Basement Roma (Rhufain, Yr Eidal, 2017); Wolf Whistles, Shoot the Lobster NY (Efrog Newydd, UDA, 2016). Dyma rai o’i harddangosfeydd grŵp diweddar: Place Vendôme, Berthold Pott (Cologne, Yr Almaen, 2019); World Receivers, wedi’i churadu gan Tiffany Zabludowicz, Zabludowicz Collection (Llundain, Lloegr, 2019); The Marvelous Cacophony, wedi’i churadu gan Gunnar B. a Danielle Kvaran, 57th October Salon (Belgrade, Serbia, 2018); Streams of Warm Impermanence, David Roberts Art Foundation (Llundain, Lloegr, 2016); Wild Style, Peres Projects (Berlin, Yr Almaen, 2016); Bloody Life, Herald St., Llundain, Lloegr, 2016). 
 

Supported by: 

Roedd y fideo Athena Papadopoulos yn bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Downloads: