Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw

Exhibition

Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw

Yn agor mis Mehefin
25 Mehefin - 25 Medi 2022

Mae Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelf Heddiw yn cyflwyno detholiad o weithiau sy’n archwilio syniad amgen, cyflenwol i gartograffeg, y wyddoniaeth draddodiadol neu’r arfer o lunio mapiau.

Mae'r 17 cartograffydd-artist Atlas Dros Dro yn ymchwilio i'w canfyddiadau gan ddefnyddio dull traddodiadol o fapio ond yn ei ehangu ar hyd llwybrau anghonfensiynol. Maen nhw’n myfyrio ar hunaniaeth, ysbrydolrwydd, yr isymwybod, emosiynau, teimlad corfforol a meddyliol, ac yn herio’r dulliau a’r rheolau a ddefnyddiwn i ddehongli mapiau o’r fath.

Mae pob un ohonom yn profi, yn barnu ac yn aseinio ein blaenoriaethau personol ar sail ein hanghenion a'n cyd-destun, ac mae'r blaenoriaethau hyn wedi'u profi gan y pandemig byd-eang.

Mae’r gweithiau sy’n cael eu harddangos yn cynnig mapiau craff a chorfforol sy’n rhoi mewnwelediad i brofiadau personol yr artistiaid, wrth dwyn i gof dirluniau meddyliol o fewn iddynt gall y gwyliwr gyfeirio ei hun; bydoedd y tu hwnt i gyfesurynnau daearyddol gwrthrychol.

Mae Atlas Dros Dro yn awgrymu ffyrdd y gallwn geisio gwneud synnwyr o’n hamgylchiadau newydd ac yn anelu at ddyfnhau’r ddeialog ar brofiad personol mewn perthynas â’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi nawr.

Wedi’i guradu gan ein Cyfarwyddwr, Dr Alfredo Cramerotti, mae Atlas Dros Dro yn cynnwys gweithiau gan yr artistiaid Sanford Biggers, Seymour Chwast, Jeremy Deller, Sarah Entwistle, Enam Gbewonyo, Rochelle Goldberg, Oliver Laric, James Lewis, Ibrahim Mahama, Paul Maheke, Matt Mullican, Otobong Nkanga, Kiki Smith, Walid Raad a gwaith wedi’i gomisiynu’n arbennig gan dri artist Cymreig Manon Awst, Adéolá Dewis a Paul Eastwood.

Cefnogwyd yr arddangosfa hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Fondazione Imago Mundi a Fondazione Benetton Studi e Ricerche.