Becca Voelcker
Mae waith Becca Voelcker, a aned ym 1990 ym Mhant Glas, gogledd Cymru, yn yn cyfuno materion lle a hunaniaeth.
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno ei gwaith Memos (2012) sy’n canolbwyntio ar long fordeithio a adawyd ar arfordir gogledd Cymru nepell o’r Fflint. Gan ymdrochi mewn haenau o ymgysylltu, atgof a naratif, mae’r gwaith yn cyfeirio at bwysigrwydd y ddelwedd symudol a’i gallu i ddwyn cysylltiadau gydag amseroedd a lleoliadau eraill i gof. Mae hefyd yn amlygu agwedd ddysgedig Voelcker tuag at hanes sinema, ac yn arbennig, y defnydd o ffilm fel cyfrwng i greu celf.
Wedi ei osod ar lawr uchaf MOSTYN, mae Oriel 6 wedi ei chreu’n arbennig ar gyfer cyflwyno gwaith artistiaid ifanc a newydd nad ydynt eisoes wedi cael arddangosfa unigol mewn safle sefydliadol, naill ai yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Mae Oriel 6 a’i rhaglen gysylltiedig, a elwir ‘Esgyn’, yn rhoi cyfle i artist i weithio dan amodau proffesiynol ac i gyflwyno ei g/waith i gynulleidfa ehangach. I’r gynulleidfa hefyd, bydd Oriel 6 yn llwyfan i ganfod pethau newydd. Bydd yn dod ag amrywiaeth eang o artistiaid sydd ar flaen y gad o ran practis celf gyfoes, o bell ac agos, i MOSTYN.
Wedi’i ysbrydoli gan y Musée d’Art Moderne, Département des Aigles gan Marcel Broodthaer – amgueddfa ffuglenol y creeodd Broodthaers i archwilio’n feirniadol ac i ystyried y modd y cyflwynir, arddangosir a derbynnir celf – mae gan Oriel 6 ei hunaniaeth unigryw ei hun, yn weledol a chysyniadol. Yn ymdebygu prosiect Broodthaers gyda’i aestheteg a’i agenda sy’n wahanol i’w amgylchoedd, mae Oriel 6 yn cyflwyno ei hun fel oriel o fewn oriel.
Ceir pedwar ‘Esgyniad’ bob blwyddyn.
Bydd cyhoeddiad yn cyd-fynd â‘r arddangosfa gyda thestun ysgrifenedig gan Guradur Rhaglen WeledolMOSTYN, Adam Carr, yn ogystal â chyfweliad gyda Becca Voelcker.
Sponsored by: