Bedwyr Williams

Exhibition

Bedwyr Williams

Hotel 70°
19 Ebrill - 6 Gorffennaf 2014

 

Wrth galon arddangosfa Williams yn MOSTYN mae ail-gread ar raddfa lawn o ran uchaf y gwesty eiconig, Hotel 70°, a arferai sefyll yn uchel ar glogwyn yn edrych i lawr dros dref Bae Colwyn gerllaw. Roedd y gwesty yma’n nodedig am ei bensaernïaeth ryfedd gyda phopeth, o’r carpedi i’r grisiau, yn dilyn onglau 70° a 110° yr adeilad. O safbwynt adeiladwr, roedd y math yma o adeiladwaith yn arwain at wastraffu deunyddiau ond mae gan lawer o bobl leol atgofion cynnes iawn am y gwesty a’i nodweddion rhyfedd, ei leoliad ar yr arfordir a’i fwyd a’i wasanaeth rhagorol. Yn yr ail-gread yma, dangosir ffilm sydd wedi cael ei gwneud gyda chymorth modelu cyfrifiadurol o’r gwesty’n cael ei ailadeiladu, ar ôl ei ddymchwel yn 2007.

Hefyd i’w gweld mae fideo ac elfennau o arddangosfa arobryn yr artist i gynrychioli Cymru yn y Biennale yn Fenis yn 2013, sef The Starry Messenger. Yn pwyso a mesur y cosmig yn ogystal â’r microcosmig, hwn fydd y tro cyntaf i’r fideo gael ei dangos ers Fenis.

Bydd gwaith ar y cyd gan y ddau artist yn cael ei ddangos fel rhan o Chance Everything a Hotel 70°. Mae’r gwaith yn cynnwys dwy ysgrif goffa a ysgrifennwyd gan yr artistiaid am y naill a’r llall, a hefyd stori ar y cyd yn dilyn strwythur tebyg; mae’r gweithiau’n ymdrin yn uniongyrchol â’r cysyniad o gydweithredu. Cynrychiolir cyfarfyddiad cyntaf yr artistiaid yn MOSTYN yn 2000, pan oedd Gander yn arddangos yno a Williams yn aelod o staff, gan ddarn gwreiddiol gan Gander sydd wedi’i ailweithio, ynghyd â gwaith yn ymateb iddo gan Williams. 
Er bod yr arddangosfeydd i’w gweld a’u deall fel dwy arddangosfa ar wahân, maent hefyd yn rhyngblethu ac yn sgwrsio â’i gilydd.

Supported by: 

Cefnogir arddangosfa Bedwyr Williams gan Ymddiriedolaeth Colwinston yn rhannol.

Colwinston Charitable Trust