Broomberg & Chanarin

Exhibition

Broomberg & Chanarin

Trais Dwyfol
19 Gorffennaf - 2 Tachwedd 2014

 

Mae MOSTYN, ar y cyd gydag Artes Mundi, yn cyflwyno arddangosfa gyntaf y DU o waith newydd Broomberg & Chanarin, Trais Dwyfol.   Mae'r arddangosfa, a ysbrydolwyd gan yr anodiadau a'r delweddau ychwanegodd y dramodydd Bertolt Brecht at ei Feibl personol, ac o dyrchu trwy The Archive of Modern Conflict, casgliad ffotograffiaeth mwyaf y byd o'i fath, yn codi amheuon am y meini prawf mud sydd ar waith ymhlith y gynrychiolaeth weledol o wrthdaro.

Tra buont yn ymweld ag archifau Bertolt Brecht ym Merlin, canfu Broomberg & Chanarin arteffact hynod: Beibl personol Brecht.  Denodd y gwrthrych eu sylw am fod ffotograff o gar rasio ar ei glawr.  O edrych ar y tudalennau darganfuwyd bod y dramodydd Almaeneg wedi defnyddio'r Beibl fel llyfr nodiadau; gan ludo delweddau, tanlinellu brawddegau a gwneud nodiadau yn y colofnau.  Roedd hyn yn ysbrydoliaeth ar gyfer eu Beibl Cysegr-lân ei hunain a gafodd ei ymgorfforiad cyntaf ar ffurf llyfr (cyhoeddwyd gan Mack, 2013) a nawr, yn cael ei ddangosiad cyntaf yn y DU ym MOSTYN, fel arddangosfa gyflawn.  Ar gyfer y prosiect hwn, mae'r artistiaid wedi cyfuno delweddau a gymerwyd o'r Archive of Modern Conflict – archif fwyaf y byd sydd wedi'i ymroi i ddelweddau o ryfel a gwrthdaro – gyda chymalau yn y testun y maent wedi eu tanlinellu mewn inc coch.

Mae traethawd byr gan yr athronydd o Israel, Adi Ophir, yn tanategu amcan yr arddangosfa.  Yn ei ysgrif mae Ophir yn arsylwi fod Duw yn ymddangos yn y Beibl gan amlaf trwy weithredoedd trychinebus, ac mae'n ystyried geiriau'r Beibl fel rhyw ddameg am dwf llywodraethu cyfoes.  Gyda'r arddangosfa hon, am y tro cyntaf, mae Broomberg & Chanarin yn sicrhau bod y ddameg hon yn rymus o eglur.

Ochr yn ochr â Thrais Dwyfol bydd dau ddarn arall o waith nodedig gan Broomberg & Chanarin yn cael eu harddangos: Afterlife, ail-ddehongliad o ffotograff dadleuol a enillodd wobr y Pulitzer ym 1979, y bu ei grëwr yn anhysbys am y 30 mlynedd ganlynol; a The Day Nobody Died, cyfres o ffotograffau gweithredol ac eithafol anffigurol a gynhyrchwyd yn 2008 pan oedd Broomberg & Chanarin wedi eu gosod ymhlith unedau'r Fyddin Brydeinig ar y rheng flaen yn Nhalaith Helmand yn Afghanistan.

 

Caiff yr arddangosfa ym MOSTYN ei churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN, ac fe'i cynhyrchir ar y cyd gydag Artes Mundi.