Bruegel Boogie Voogie
Yn ei gyfres o baentiadau bach, Royal Mail, mae’r artist Misha Shengelia o Georgia yn taflu golwg goeglyd, llawn eironi a hiwmor tywyll dros hynt a helynt y byd mewn delweddau tebyg i gardiau post.
Mae popeth yn fâl i felin dychymyg bywiog Shengelia: caiff ‘ailddehongliadau’ o’r hen feistri a gweithiau modern eu cymysgu gyda sylwebaeth groyw ar ddiwylliant a digwyddiadau politicaidd y byd, portreadau o ffigyrau enwog ac anfad gyda sylwadau ffraeth ar ddigwyddiadau cymdeithasol ac economaidd yn Rwsia, America ac Ewrop. Wrth eu gweld gyda’i gilydd gallant yn hawdd fod yn lluniau llonydd o sianel newyddion 24-awr rhyw fydysawd cyfochrog swreal gwyllt.
Mae Bruegel Boogie Voogie yn arddangosfa Mostyn drefnwyd gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.