Camille Blatrix
Orielau 5 + 6
Noson y rhagarddangosfa Nos Wener 17 Tachwedd, 6,30yh - Croeso i bawb.
Mae MOSTYN, Cymru, Y DU yn falch o gyhoeddi arddangosfa unigol gan yr artist Ffrengig, Camille Blatrix, a gynhyrchir mewn cydweithrediad â Fondation d'entreprise Ricard, Paris.
Yn 2014 , cafodd Blatrix wobr fawreddog Prix d'entreprise Ricard, sy’n dyfarnu gwobr ariannol bob blwyddyn i artist Ffrengig sy'n dod i'r amlwg a'i waith wedi cael ei arddangos yng ngofod y Fondation ym Mharis. Prynwyd gwaith Blatrix gan y Fondation, a chafodd ei roi yn rhodd i’r Centre Pompidou ym Mharis. Ar gyfer y 16eg Wobr, ac am y tro cyntaf yn ei hanes, dymunai'r Fondation anrhydeddu’r artist gyda sioe unigol y tu allan i Ffrainc, yn ogystal â’r wobr.
Mae’r arddangosfa, un gyntaf Blatrix yn y DU, yn cyflwyno gwaith cwbl newydd gan yr artist ac mae’n ymateb yn rhannol i’w ymweliad â MOSTYN a thref Llandudno yn 2014. Cafodd ei atgoffa ar yr ymweliad o atgofion ei blentyndod ac o ddychwelyd o ddinas fawr i dref lai i ymweld â theulu a ffrindiau. Ar gyfer y sioe, mae Blatrix wedi gwahodd ei rieni i gyflwyno’u gwaith eu hunain (mae ei fam yn grochenydd a’i dad yn gyn-arlunydd), sy’n adlewyrchu’r teimladau a gododd yn ystod ei ymweliad â MOSTYN. Drwy wneud hynny, mae’r arddangosfa’n trafod materion hunangofiannol, dylanwadau, magwraeth a gyrfa artistig yr artist.