Carwyn Evans

Exhibition

Carwyn Evans

Cysgod
7 Gorffennaf - 9 Medi 2012

O Orffennaf yr 8fed i’r 14eg, yn dilyn taith ar draws Cymru o Abertawe i’r gogledd, daw corff awyren wedi’i thrawsnewid i nythu ar y promenâd yn Llandudno. Yn ofod celf, cerflunwaith cymdeithasol a chapsiwl amser teithiol bydd Adain Avion yn cynnau dychymyg pobl drwy amrywiaeth o weithgarwch chwaraeon a diwylliannol ar hyd y ffordd.

Y prosiect, dan arweiniad ysbrydoledig yr artist Marc Rees, yw cyfraniad Cymru ar gyfer Artistiaid yn Cymryd y Blaen sy’n rhan o’r Olympiad Diwylliannol, Llundain 2012. Mae Mostyn yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn drwy hwyluso ac arddangos prosiect Carwyn Evans, Cysgod, sy’n rhan o’r dathliadau yn Llandudno.

Yn deillio o atgynhyrchiad cyfoes o’r cysgodfeydd glan môr traddodiadol sy’n llinell hir ar hyd promenâd Llandudno bydd gosodwaith newydd Carwyn Evans, Cysgod, sydd hefyd yn gallu golygu lloches, yn gartref i gyfres o ddelweddau symudol cyfoes o drigolion ac ymwelwyr i’r dref yr haf hwn. Wedi ei gomisiynu gan Adain Avion, sy’n rhan o Llundain 2012 Gŵyl ac Olympiad Diwylliannol bydd Cysgod yn gwahodd pobl i gael eu llun wedi’i dynnu wrth iddynt sefyll yn syllu allan i’r môr gan ffurfio sail ar gyfer y gwaith celf newydd fydd yn gwahodd myfyrdod am hedfan neu lanio; cyrraedd neu adael.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i’r safle Cysgod a http://cysgod2012.wordpress.com/