Celf a Ffydd
Mewn partneriaeth ag Eglwys Fethodistaidd St. John, mae ein hystafell gyfarfod yn cynnwys nifer o weithiau celf o Gasgliad Celf Modern y Methodistiaid.
Mae Casgliad Celf Modern y Methodistiaid – y casgliad mwyaf nodedig o gelf grefyddol fodern y tu allan i'r Fatican – yn cynnwys dros 40 enghraifft o gelf Gristionogol bwysig.
Yn ogystal â’r gwaith fydd i'w weld ym MOSTYN, a ddewiswyd gan Alfredo Cramerotti, ein Cyfarwyddwr, bydd rhagor o waith a ddewiswyd gan Beverley Ramsden, Gweinidog St John, i’w weld yn yr eglwys yn Stryd Mostyn.
Cofiwch y bydd yr ystafell gyfarfod ar gau weithiau gan y bydd cyfarfodydd preifat yn cael eu cynnal yno, felly mae’n syniad da ffonio ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod yr arddangosfa ar agor pan rydych yn ymweld.