Cerith Wyn Evans

Exhibition

Cerith Wyn Evans

Yn agor mis Hydref
8 Hydref - 5 Chwefror 2023

Dyma arddangosfa unigol o bwys gan Cerith Wyn Evans, (g. 1958), yr artist Cymreig sefydledig ac a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n gweithio heddiw.

Wedi'i guradu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, fydd cyflwyniad yr arddangosfa hon sy'n safle-benodol yn archwiliad ymdrochol o'r meddwl a'r corff, ein system wybyddol a'n hymwybyddiaeth.

Mi fydd y naratif gweledol cryf sy'n cael ei gyflwyno i'r gwyliwr yn datblygu trwy fath o 'hap a reolir' trwy'r adeilad. Mae ei waith, yn enwedig ei gerfluniau neon cymhleth, yn holi’r syniad o ganfyddiad ac yn cwestiynu nid yn unig sut rydym yn dehongli gwaith, ond hefyd sut rydym yn dehongli ein hamgylchedd a’n systemau ehangach o iaith lafar, weledol ac ysgrifenedig. Felly, nid neon yn unig yw'r gweithiau neon, ond ffurfiau ar ganfyddiadau sy’n caniatáu i ymwelwyr ymdrochi yn amgylchedd yr arddangosfa, gyda’r gynulleidfa’n cerdded trwy, o gwmpas ac o dan lwyth o weithiau golau cymhleth, gweithiau sain, gweithiau dirgrynu a thryloywderau. Bydd y rhain yn swyno, yn hudo ac yn herio canfyddiad yr ymwelydd. Beth yw celf? Beth mae bod yn wyliwr yn ei olygu? Beth sy'n cael ei gyfleu i ni ac oddi wrthym ni o fewn yr amgylchedd hwn?

Mae Wyn Evans, a gafodd ei eni yn Llanelli, yn gyn-enillydd Gwobr Hepworth ac yn gyn-gynrychiolydd Cymru ym Miennale Fenis. Er bod nifer o arddangosfeydd unigol mewn amgueddfeydd wedi’u neilltuo i’w waith, yn fwyaf nodedig yn y DU yn Tate Britain (2017), nid yw erioed wedi gallu cyflwyno ehangder ei iaith artistig yng Nghymru. Mae’r arddangosfa hon ym MOSTYN yn gyfle unwaith-mewn-oes i weld cyflwyniad mawr o weithiau sy’n ymateb i le, gwaith newydd ac addasol, a bydd yn cynnwys cerflunwaith, gosodiadau, gwaith golau, gwaith sain a delwedd symudol.

Supported by: