Chant Avedissian

Exhibition

Chant Avedissian

Cairo Stencils
20 Tachwedd - 19 Chwefror 2011

Mae’r artist Eifftaidd-Armenaidd Chant Avedissian – a berffeithiodd ei dechnegau yn ysgolion celf y Gorllewin gyda’i ysbrydoliaeth yn cael ei fegino gan bantheon Oes Aur modern yr Aifft – yn archwilio’n ddeheuig y terfynnau rhwng celf ‘uchel’ ag ‘isel’, gwleidyddiaeth a phop, y byrhoedlog â’r oesol; a’r Aifft a gweddill y byd.

Y delweddau eu hunain i’w testunau Avedissian – y rhan fwyaf wedi eu codi o gloriau cylchgronau Eifftaidd o’r cyfnod rhwng dyddiau cynnar y Brenin Farouk a marwolaeth Arlywydd Nasser, pan oedd yr Aifft yn mynd ar drywydd ei delfryd o fodernaeth. Mae’r ffigyrau eiconic yng nghanfasau Avedissian yn cynnwys cantorion chwedlonol Om Kulthoum ac Asmahan; seirenau sgrîn Shadia a Hind Rostom; y ddau bishyn Farid al-Atrash ac Abdel Halim Hafez; a gwladweinyddion oedd unwaith yn cael eu haddoli fel Gamal Abdel Nasser. Mae ei synthesis ddi-feth o themâu ac eiconograffeg yr Aifft a’r byd Arabaidd yn y 1950au a’r 1960au hefyd yn cynnwys mamau, chwareuwyr a chwareuwragedd, milwyr, ffilmiau, hieroglyffaus, bywyd y wlad a hysbysebu.