'CHI'

Exhibition

'CHI'

27 Ebrill - 7 Gorffennaf 2013

Fel yr arddangosfa sy’n agor rhaglen newydd o arddangosfeydd ym MOSTYN wedi eu curadu gan Adam Carr, mae TI yn mynd i’r afael, ac yn cynnal deialog, gyda’r amser y digwydd. Mae’n dwyn gweithiau ynghyd gan bum artist rhyngwladol sy’n gwahodd neu angen cyfraniad y gwyliwr, gyda’r nod o greu perthynas agos gyda’r gynulleidfa.

Felix Gonzalez-Torres, Aurélien Froment, Jeppe Hein, Július Koller and Rivane Neuenschwander.

Bydd TI yn difyrru’r gwyliwr mewn ffyrdd efallai nad sy’n gyffredin mewn perthynas â’u profiad o weithiau celf ac arddangosfeydd hyd yma. Wrth i’r arddangosfa ymateb i ymwelydd, ac yn amodol ar newid ac ail-drefniant parhaol yn unol â‘u gweithgaredd, bydd yn herio codau ymddygiad confensiynol yng nghyd-destun gofod oriel.

Tra mae’r arddangosfa’n rhoi ystyriaeth i’r cefndir mewn hanes celf i’r berthynas rhwng gwaith celf a’r gwyliwr, a’i statws cynyddol dros amser, mae’n holi sut mae’r gweithiau yma yn ymgysylltu ac yn meithrin perthynas gyda chynulleidfaoedd mewn ffyrdd unigryw sy’n wahnanol i weithiau celf eraill? Sut y caiff rôl y gwyliwr ei dyrchafu a’i gwneud yn ganolog mewn modd unigryw? Drwy arddangos gweithiau celf sy’n meithrin cwestiynau o’r fath, mae TI yn gobeithio adeiladu ar yr undeb rhwng y gwaith celf, y gwyliwr â MOSTYN ei hun.

Yn ychwanegol i’r gweithiau celf bydd cyflwyniad gan Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor, yn cynnwys arteffactau diwylliannol, dogfennau ac eitemau eraill sy’n darlunio’r cysylltiad rhwng gwrthrychau â‘n gwybyddiaeth. Y bwriad wrth wneud hyn yw gosod y gweithiau celf gan yr artistiaid cyfranogol mewn maes diwylliannol a chyd-destunol ehangach, a lledaenu ein hymgysylltiad â’n canfyddiad o wrthrychau yn gyffredinol.

Mae TI yn gosod cynsail ar gyfer ysbryd rhaglenni’r dyfodol ym MOSTYN, sy’n canolbwyntio ar ymwneud yn agos â chynulleidfaoedd a chyrhaeddiad ymhell y tu hwnt i waliau’r oriel.

Bydd cyhoeddiad yn cyd-fynd â‘r arddangosfa yn cynnwys testun gan Gyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti, a thraethawd a thestunau ar yr artistiaid cyfranogol gan guradur yr arddangosfa Adam Carr, Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol MOSTYN.