Chiara Camoni

Exhibition

Chiara Camoni

About this and that. The self and the other. Like everything.
9 Tachwedd - 1 Mawrth 2020

Gan gynnwys gweithiau newydd a diweddar, mae arddangosfa Chiara Camoni yn cynnwys darn cydweithredol a wnaed yn arbennig ar gyfer MOSTYN.

Gan weithio'n bennaf ar draws lluniadu, cerflunio a gosodwaith, mae Camoni yn creu gofodau sydd â synwyrusrwydd barddonol.

Mae ei gwaith yn ffrwyth proses y mae hi’n ei galw’n ‘gwyriadau’ lle mae deunyddiau’n tarddu o gyfarfyddiadau ar hap ac unigolion neu ‘awduron amrywiol’ sy’n agos ati. Drwy’r broses hon mae Camoni yn honni bod ‘ystyr yn cael ei rannu, mae’n wyrth fach. Dyma ei ffordd hi a’u ffordd nhw o wrthsefyll - yr ofn, treigl amser, newyddion y dydd’.

 
 

Supported by: