Copi Katz

Exhibition

Copi Katz

22 Ionawr - 12 Mawrth 2011

Arddangosfa grwˆp o bortreadau a ysgogwyd gan weithiau Alex Katz yn yr arddangosfaARTIST ROOMS. Fe wnaethpwyd y gweithiau celf, sydd wedi eu seilio ar dri o brotreadau Alex Katz, gan fyfyrwyr o ddwy ysgol uwchradd leol. Ers mis Medi mae Mostyn wedi bod yn gweithio hefo myfyrwyr i greu portreadau mawr eu maint. Gofynwyd i ddisgyblion geisio cadw’r un nodweddion ag sydd yn y portreadau gwreiddiol gan ychwanegu eu steil a’u chwaeth bersonol eu hunain. Mae’r gweithiau celf lliwgar ac atyniadol sy’n adlewyrchu ffasiwn, tueddiadau a chyfeiriadau
at ddiwylliant poblogaidd heddiw wedi deillio o’r sesiynau hyn.