cwrdd â mi wrth yr afon
Wedi’i ysbrydoli gan rwydweithiau sy’n digwydd ym myd natur sy’n galluogi cymunedau o blanhigion a bywyd gwyllt i ffynnu, rhannu maeth ac anfon rhybuddion traws-rywogaeth, mae cwrdd â mi wrth yr afon yn anelu at groestorri, troshaenu ac amlygu edafedd cysylltiol rhwng celf, y tir a phobl sy'n byw yng Ngogledd Cymru.
Yn cymryd siâp yn raddol fel clwb rheolaidd a gynrychiolir gan gymunedau lleol Conwy, planhigion brodorol a’r artist Frances Disley, mae cwrdd â mi wrth yr afon wedi bod yn weithredol ers gwanwyn 2022 fel cydweithrediad crwydrol rhwng rhwydweithiau dynol ac an-ddynol sy'n gysylltiedig trwy'r afon Conwy a'i llednentydd.
Yn ystod y rhaglen, bu’r clwb yn cymryd rhan mewn cyfarfyddiadau gwledig yng Nghapel Curig, Coed Hafod a RSPB Conwy, a gweithdai yn Menter Iaith, Llanrwst a Chanolfan Ddiwylliant Conwy, lle arafodd y clwb a chyfnewid gwybodaeth a hanes gyda'r planhigion oedd yn byw yn y tri safle ac o'u cwmpas.
Yr haf hwn, bydd cwrdd â mi wrth yr afon yn byw yn y Gofod Prosiect ac yn gwahodd y cyhoedd ehangach i'r prosiect trwy gyflwyniad ffilm, cerflunwaith, tecstilau a gweithgareddau cyfranogol.
Mae MOSTYN yn diolch o galon i holl gydweithwyr y prosiect: Iona, Myfanwy, Sheila, Lynzi, Irene, Janey, Mair, Eirlys, Sharon, George, Jim, Delyth a Rhiannon.
Dewch i weld taith cwrdd â mi wrth yr afon drwy ddilyn Instagram y prosiect: cwrdd_a_mi